Gyda mwy na 7,000 o bobl ifanc mewn gofal ar draws Cymru, mae’r angen am fwy o Ofalwyr Maethu yn cynyddu.
Yn Wrecsam, mae 222 o blant mewn gofal maeth ar hyn o bryd, ac mae gan bob un anghenion a dyheadau unigryw. O’r rhain, mae 49 yn cael gofal gan ofalwyr maeth awdurdod lleol, 78 gan ofalwyr cysylltiedig a 98 gan asiantaethau maethu annibynnol.
Er mwyn sicrhau bod modd i’r plant hyn aros yn agos at eu gwreiddiau, eu cymunedau a’u grwpiau ffrindiau, ein nod yw recriwtio un ar ddeg gofalwr maeth ychwanegol erbyn mis Ebrill 2025.
Ym mis Ionawr, lansiodd y rhwydwaith cenedlaethol o 22 tîm maethu awdurdod lleol yng Nghymru ymgyrch i recriwtio 800 o deuluoedd maeth ychwanegol erbyn 2026.
Ymunodd Maethu Cymru Wrecsam â’r ymgyrch, ‘Gall Pawb Gynnig Rhywbeth’, i rannu profiadau realistig o’r gymuned faethu i ymateb i rwystrau cyffredin i ymholiadau.
Mae rhai o’r rhain yn cynnwys diffyg hyder, camsyniadau am feini prawf a chred nad yw maethu’n cyd-fynd â ffyrdd penodol o fyw.
Mae cam diweddaraf yr ymgyrch yn canolbwyntio ar rôl gweithwyr cymdeithasol gofal maeth a’r ‘swigen gefnogaeth’ sy’n bodoli o amgylch gofalwyr maeth, i ddarparu’r canlynol i ddarpar ofalwyr:
1) Gwybodaeth a dealltwriaeth am rôl gweithiwr cymdeithasol, a sut gall y gymuned faethu ehangach eu cefnogi.
2) Hyder a sicrwydd fod gweithwyr cymdeithasol yn arbenigwyr gofalgar a rhagweithiol sy’n gweithio’n galed i gefnogi pobl ifanc a gofalwyr maeth.
3) Cymhelliant i ddechrau’r broses i fod yn ofalwr maeth trwy Awdurdod Lleol.
Mewn arolwg YouGov diweddar, dim ond 44% o ymatebwyr a ddywedodd fod gwaith cymdeithasol yn cael ei barchu ac roedd bron i ddau o bob pump (39%) o oedolion a fu’n rhan o’r arolwg yn teimlo bod ymarferwyr yn cael pethau’n anghywir yn aml.
Dim ond 11% o weithwyr cymdeithasol sy’n credu bod gwaith cymdeithasol yn cael ei barchu’n dda ar hyn o bryd.
“Fel gweithiwr cymdeithasol yn Wrecsam, rydw i’n gweld yr effaith fawr mae maethu’n ei chael ar fywydau plant yn uniongyrchol.
“Rydym yn ymrwymedig i gefnogi ein gofalwyr maeth ar bob cam o’r ffordd, gan eu helpu i feithrin amgylchedd cryf, gofalgar i bobl ifanc mewn angen.
“Gall maethu fod yn heriol, ond gyda’r gefnogaeth a’r arweiniad cywir, mae’n rhoi boddhad mawr.”
Ingrid, Uwch Weithiwr Cymdeithasol Goruchwylio, Maethu Cymru Wrecsam
Mae ymgyrch ddiweddaraf ‘Gall Pawb Gynnig Rhywbeth’ wedi’i harwain gan arolwg sydd newydd ei gomisiynu er mwyn deall rhagdybiaethau a chymhellion gweithwyr cymdeithasol yn well. Cafwyd 309 o ymatebion ac mae’r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:
- Dywedodd 78% o weithwyr cymdeithasol a gymerodd ran yn yr arolwg eu bod wedi mynd i’r proffesiwn er mwyn cefnogi a helpu teuluoedd
- Dywedodd 18% o ofalwyr maeth fod rhagdybiaethau negyddol am weithwyr cymdeithasol yn deillio o sylw ar y newyddion
- Dywedodd 29% o ofalwyr maeth eu bod yn credu mai ‘pobl â llwyth achosion trwm a llawer o waith papur’ oedd gweithiwr cymdeithasol, cyn cwrdd â nhw
- Roedd 27% o’r gweithwyr cymdeithasol a gymerodd ran yn yr arolwg yn credu bod gan ddarpar ofalwyr ofn cael eu beirniadu gan weithwyr proffesiynol
Mae Ingrid yn Uwch Weithiwr Cymdeithasol Goruchwylio gyda Maethu Cymru Wrecsam ac mae hi wedi bod yn y swydd ers 16 mlynedd. Bu’n myfyrio am beth sy’n gwneud gofalwr maeth gwych a sut mae Maethu Cymru Wrecsam yn cefnogi gofalwyr maeth lleol.
Rydw i’n teimlo bod cymhelliant a gallu i roi eu hunain yn sefyllfa’r plentyn wrth wraidd pob gofalwr maeth, a’r gallu i weld y byd trwy eu llygaid nhw a rhoi ystyriaeth i brofiadau’r plentyn hwnnw.
Gall gofalwyr maeth sydd â’r ddawn hon ddarparu gofal unigol sy’n cefnogi’r plentyn i deimlo’n ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am pwy ydyn nhw ac i symud ymlaen at ddyfodol iach.
Mae Maethu Cymru Wrecsam yn cefnogi Gofalwyr Maeth lleol trwy ddeall a gwerthfawrogi’r gwaith maen nhw’n ei wneud a all gael effaith oes ar ddyfodol plant.
Maen nhw’n cydnabod yr heriau sy’n cyd-fynd â rôl gofalwyr maeth gan wneud eu gorau glas i roi amrywiaeth ddefnyddiol o gefnogaeth, cyfleoedd datblygu a chynhwysiant iddynt.
Yn yr ymchwil, amlygodd gofalwyr maeth bwysigrwydd perthnasoedd gweithio agos a pharhaus er mwyn cefnogi pobl ifanc i oresgyn heriau. Roedden nhw’n awyddus i chwalu mythau am weithwyr cymdeithasol a’r gefnogaeth rydych chi’n ei chael hefyd, gan dalu teyrnged i ymroddiad eu gweithwyr cymdeithasol:
Isod, clywn gan Lisa, sy’n maethu brawd a chwaer gyda’i gwraig Kate, a’u dau o blant…
“Rydym wedi bod yn maethu ers bron i 3.5 mlynedd ac yn ystod yr amser hwn, rydym wedi cael gweithwyr cymdeithasol gwych.
“Rydym wedi wynebu heriau ac amseroedd anodd, ond dim ond codi’r ffôn oedd rhaid, maen nhw’n eich cefnogi chi a’ch teulu gan wneud amser i chi o hyd, i roi cyngor, cefnogaeth, ateb cwestiynau neu i wrando a bod yno i chi.
“Nhw sy’n cadw’r gwasanaeth maethu gyda’i gilydd, fedra i ddim egluro faint maen nhw’n ei roi a byddem ni wedi bod ar goll hebddyn nhw.
“Maen nhw i gyd wedi dod i adnabod fy mhlant i gyd. Rydym ni’n edrych ymlaen at eu gweld nhw. Mae’r amser a’r ymdrech mae gweithwyr cymdeithasol goruchwylio yn eu rhoi i ffurfio perthynas gref gyda chi yn amhrisiadwy ac maen nhw’n dod yn ffrindiau ac yn bobl y gallwch chi ddibynnu arnyn nhw.”
Meddai’r Cynghorydd Robert Walsh – Aelod Arweiniol Pobl – Gwasanaethau Plant a Theuluoedd:
“Fel Aelod Arweiniol Pobl – Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, rwy’n falch o amlygu gwaith anhygoel ein cymuned o ofalwyr maeth a’r gefnogaeth amhrisiadwy mae ein gweithwyr cymdeithasol yn Wrecsam yn ei darparu.
“Gyda mwy na 7,000 o bobl ifanc mewn gofal ar draws Cymru, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i annog mwy o unigolion i ystyried maethu. Mae ymgyrch ‘Gall Pawb Gynnig Rhywbeth’ yn arddangos arbenigedd ac ymroddiad ein gweithwyr cymdeithasol, gan bwysleisio’r amgylchedd cefnogol maen nhw’n ei greu i ofalwyr maeth.
“Gyda’n gilydd, gallwn helpu i greu cartrefi cryf a gofalgar i blant mewn angen, gan wneud gwahaniaeth parhaus yn eu bywydau.”
I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i: https://maethucymru.llyw.cymru/