Mae Safonau Masnach Wrecsam wedi cael gwybod am sgam newydd yn ymwneud â phrofion PCR ar gyfer yr amrywiolyn Covid-19 Omicron.
Mae’r sgam yn cael ei rannu dros e-bost, neges destun ac ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn honni i fod gan y GIG yn cynnig ‘prawf PCR Omicron am ddim i osgoi cyfyngiadau’.
Gwahoddir chi i glicio ar ddolen i wneud cais am y prawf ‘am ddim’, ond pan fyddwch yn dilyn y ddolen bydd gofyn i chi roi eich manylion talu a’ch gwybodaeth bersonol.
Sgam ydi hyn. Ni fydd y GIG byth yn gofyn i chi roi eich manylion talu i drefnu prawf.
Rydym ar ddeall bod gwahanol amrywiadau o’r sgam, ond mae hwn yn un rydym wedi’i weld.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Yn anffodus, mae hwn yn amrywiad arall o’r nifer o negeseuon testun ac e-byst twyllodrus sy’n ceisio defnyddio’r pandemig fel cyfle i ddwyn eich gwybodaeth bersonol. Cyn gwneud unrhyw beth, cymerwch yr amser sydd ei angen arnoch chi i ystyried ai sgam ydi hwn. Os nad ydych yn siŵr, gallwch bob amser anfon unrhyw negeseuon e-bost ymlaen at report@phishing.gov.uk er mwyn eu gwirio.”
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Cofiwch, ni fydd y GIG byth yn gofyn am y canlynol:
• Manylion eich cyfrif banc / cerdyn
• Eich pin neu’ch cyfrinair
• Copïau o ddogfennau personol i brofi’ch hunaniaeth e.e. pasbort, trwydded yrru, biliau neu slipiau cyflog
Rhywfaint o gyngor
Mae’n bwysig iawn dilyn y tri cham hyn wrth benderfynu a yw’n ddiogel i chi wario’ch arian neu ddarparu’ch gwybodaeth bersonol:
STOPIO – Gall cymryd munud neu ddwy i feddwl cyn penderfynu gwario arian neu ddarparu gwybodaeth bersonol eich cadw chi’n saff.
HERIO – Ydi’r cynnig yn un go iawn? Mae gennych chi berffaith hawl gwrthod neu anwybyddu unrhyw gais. Dim ond troseddwyr fydd yn eich rhuthro neu’n gwneud i chi ddychryn.
AMDDIFFYN – Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’ch twyllo cysylltwch â’ch banc yn syth a rhowch wybod i Action Fraud.
Sut i ddelio â negeseuon e-bost amheus
Creodd y Ganolfan Seiberddiogelwch Cenedlaethol (NCSC), Wasanaeth i Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus, sy’n ei gwneud yn hawdd i bobl anfon unrhyw negeseuon e-bost amheus atynt.
Yna bydd yr NCSC yn dadansoddi’r e-bost ac unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â’r neges.
Os ydych wedi derbyn e-bost yr ydych yn teimlo’n ansicr yn ei gylch, gallwch ei anfon ymlaen at y Gwasanaeth Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus trwy’r cyfeiriad e-bost report@phishing.gov.uk
Adrodd am drosedd seiber
Os ydych chi’n credu eich bod wedi bod yn ddioddefwr sgâm neu drosedd seiber, dylech adrodd am hyn i Action Fraud drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Action Fraud yw’r Canolfan Cenedlaethol Adrodd am Sgamiau a Throsedd Seiber yn y DU.
Cyngor cyffredinol ar sgamiau
Gellir cael Cyngor i Ddefnyddwyr gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Gellir cysylltu â nhw ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL