Bydd Cyngor Wrecsam yn dadorchuddio’i nodau i helpu cymaint o bobl â phosibl i fod yn ddwyieithog, gyda’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cael ei drafod yr wythnos nesaf..
Mae’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlinellu sut y bydd Adran Addysg Cyngor Wrecsam a’i bartneriaid yn parhau i ateb y saith canlyniad a nodwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag addysg Gymraeg.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Mae’r saith canlyniad yn ymwneud â meysydd gan gynnwys darpariaeth, safonau Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith gan gynnwys cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio‘r Gymraeg yn gymdeithasol, a hyfforddiant a datblygiad y gweithlu.
“Pellgyrhaeddol ac uchelgeisiol”
Bydd y cynllun yn cael ei drafod gan aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn eu cyfarfod misol ddydd Mawrth, 11 Gorffennaf.
Pan fydd wedi’i gymeradwyo, gall y cynllun drafft newid yn dilyn adborth gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Mae’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn ddogfen pellgyrhaeddol ac uchelgeisiol, sy’n nodi ein gweledigaeth a’n hamcanion wrth i ni barhau i gyflawni a darparu ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Fel y mae’r weledigaeth a amlinellwyd yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn ei nodi, rydym eisiau i bob plentyn ac unigolyn ifanc i fod yn siaradwyr dwyieithog hyderus drwy ddarpariaeth addysg, ac yn gallu byw, gweithio a chymdeithasu yn gyfforddus drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Ein nod yw cynyddu’r capasiti ar gyfer llefydd cyfrwng Cymraeg yn ein hysgolion, gyda 401 lle ychwanegol i’w datblygu ledled y fwrdeistref sirol.
“Cefnogi dysgwyr ar bob lefel”
“Rydym eisiau cefnogi dysgwyr, ar bob lefel, i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg fel y gallant sgwrsio a gweithio yn ddwyieithog yn hyderus a chyfforddus.
“Mae gwaith ar y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi’i wneud trwy ymgynghoriad parhaus â nifer o fudd-ddeiliaid a sefydliadau partner, a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am y gwaith y maent wedi’i wneud i’w ddrafftio.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI