I gofio Diwrnod y Cadoediad byddwn yn swnio seiren cyrch awyr am 11yb ddydd Mercher, 11 Tachwedd.
Mae’n rhan bwysig o’r coffâd ac ers blynyddoedd lawer mae pobl wedi dod i ddisgwyl iddo gael ei swnio. Ond rydym yn ymwybodol y gall achosi trallod neu ofid i rai pobl.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Rydyn ni am osgoi hyn gymaint â phosib felly rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n gallu lledaenu’r gair am hyn i unrhyw un rydych chi’n ei adnabod a allai gael ei effeithio er mwyn iddyn nhw fod yn barod.
Mae’r seiren wedi’i lleoli yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac weithiau gellir ei chlywed o fewn radiws o 2.5 milltir i ganol y dref.
Gwasanaeth Diwrnod y Cadoediad
Ni fydd Cymru bellach dan glo, ond ni fydd y frwydr gyda’r Coronafeirws wedi diflannu.
Mae Maer Wrecsam – y Cynghorydd Rob Walsh yn ogystal â Chefnogwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd David Griffiths, wedi recordio negeseuon fideo, a byddant yn nodi’r achlysur o’u cartrefi.
Os ydych chi fel arfer yn dod i mewn i Wrecsam yn arbennig ar gyfer y gwasanaeth, cofiwch gallwch gymryd rhan o gartref hefyd.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Fodd bynnag, os ydych yn Wrecsam ar adeg y gwasanaeth, rydym yn eich annog i sefyll, a nodi’r 2 funud o dawelwch yn ddiogel, gan gadw pellter cymdeithasol.
Rydym yn gobeithio bydd ffrwd fyw o’r gwasanaeth byr a syml fel y gallwch chi fod yn rhan o hyd, wrth gadw Wrecsam yn ddiogel.
Dywedodd Cefnogwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd David Griffiths: “Mae Diwrnod y Cadoediad yn ymwneud â choffadwriaeth, nid presenoldeb. Mae gan Wrecsam etifeddiaeth falch o gefnogi’r lluoedd arfog. Eleni dylem ddewis cofio o gartref, trwy wneud hynny, rydym hefyd yn amddiffyn y Maelor a’r GIG.”
Dywedodd Ant Metcalfe, Rheolwr Ardal Cymru, y Lleng Brydeinig Frenhinol: “Er ei bod yn siomedig iawn y bydd digwyddiadau Coffa yn wahanol eleni, gall y cyhoedd i gyd chwarae rhan o hyd i sicrhau bod Diwrnod y Cadoediad yn cael ei nodi’n briodol ac mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn annog pobl i oedi am y Tawelwch Dau Funud a chymryd rhan yn eu moment bersonol o Goffadwriaeth.”
Lawrlwythwch yr ap GIG