Flwyddyn yn ôl, gwnaeth y ferch ysgol o Wrecsam Elan Catrin Parry addewid i Davina McCall ar sioe oriau brig ITV sy’n ceisio trawsnewid bywydau, ‘This Time Next Year’, yn datgelu ei breuddwyd: “Dw i eisiau creu albwm.” Un flwyddyn yn ddiweddarach, ac mae Elan wedi arwyddo cytundeb recordio o bwys gyda Decca Records.
Mae’r ferch 15 oed yn rhyddhau ei sengl gyntaf Anfonaf Angel, gydag albwm i ddilyn yn ddiweddarach eleni. Hi yw’r gantores gyntaf o Gymru i gael ei llofnodi’n egsgliwsif i Decca ers Katherine Jenkins 15 mlynedd yn ôl. Bydd Elan yn perfformio mewn cyngerdd i ddathlu ddydd Gwener yma am 5pm yn y canolbwynt celfyddydau lleol, Tŷ Pawb.
Mae Elan wedi bod yn cystadlu mewn cystadlaethau canu traddodiadol yr Eisteddfodol ers yn bedair oed, yn dathlu cerddoriaeth a diwylliant ac yn cyrraedd dros 150,000 o bobl bob blwyddyn. Y llynedd, cyrhaeddodd Elain y rownd derfynol yn ei chategori yn yr Eisteddfod, a dyna lle y cafodd ei gweld gan swyddogion Decca a gynigiodd gontract recordio iddi’n ddiweddarach.
Cafodd ei sengl Anfonaf Angel ei pherfformio’n flaenorol gan y tenor Rhys Meirion yn 2012 fel teyrnged i’w chwaer, Elen, a fu farw yn 43 oed. Mae lle arbennig i’r gân hon yng nghalon Elan gan ei bod wedi ei chlywed yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf gan Rhys yn yr Eisteddfod ac wedi syrthio mewn cariad â’r gân. Cafodd y gân hefyd ei chwarae yng nghynhebrwng taid Elan.
Mae’r ferch ifanc yn angerddol am barhau â llinach cerddoriaeth gorawl Gymreig a chadw’r traddodiad yn fyw, a bydd ei albwm gyntaf yn cynnwys caneuon yn y Gymraeg a’r Saesneg. Wrth siarad am ei dewis o ganeuon, mae’n dweud “Yn gerddorol, mae’n gymysgedd o ganeuon gwerin a thonau clasurol.” Mae hi’n ddwyieithog ac yn newid yn naturiol o’r Gymraeg i’r Saesneg – ar yr albwm a gartref. “Rydw i bob amser wedi canu’n Gymraeg ac mae’n rhywbeth sy’n naturiol i mi,” meddai am ei hangerdd at yr iaith. “Mae dyletswydd ar fy nghenhedlaeth i’w drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.”
Fel y gwelodd y gwylwyr ar ‘This Time Next Year’ gwnaeth Elan ei haddewid a gadawodd drwy’r drws ‘This Time’ yn y stiwdio i ddechrau ar ei blwyddyn o her. Ond diolch i fformat “teithio mewn amser” y sioe, yr hyn y gwelodd y gwylwyr eiliadau’n ddiweddarach oedd Elan yn dod allan drwy’r drws ‘Next Year’ yn y stiwdio i ddweud wrth Davina am y flwyddyn a fu a’i gwelodd yn mynd o fod yn ferch ysgol i fod yn seren recordio.
Yn sgil fformat y sioe, un o’r darnau anoddaf i Elan oedd cadw’r gyfrinach am ei thaith gyffrous am flwyddyn gyfan. “Yn ffodus, roeddwn yn gallu ei drafod a’i rannu gyda fy nheulu a’m ffrindiau agos, a dw i erioed wedi bod yn un sy’n brolio’r hyn dw i’n ei wneud, ond mae blwyddyn yn amser hir!
“Roedd mor gyffrous i mi ei ffilmio,” medai, “Roedd Davina mor hyfryd, gan ei gwneud yn hawdd iawn, gan fod y cyfan yn newydd i mi – cael fy ngwallt a’m colur wedi ei wneud yn broffesiynol, dydw i ddim fel arfer yn gwisgo llawer o golur ond roedd yn dipyn o hwyl i roi cynnig ar y cyfan! Mi wnes i wisgo gwisg goch a dywedodd ei bod yn hoff ohoni. Ond wrth gwrs, y peth pwysicaf a’r mwyaf bendigedig oedd fy mod wedi cael fy arwyddo, a dw i wedi creu albwm rwyf wrth fy modd efo fo.”
Mi wnaeth Davina McCall hefyd fwynhau cwrdd ag Elan hefyd – gan ddweud ar y sioe, “Mae’r cyfuniad o dy wyneb prydferth, prydferth a’r llais anhygoel yna yn fy swyno.”
Mae Elan, sy’n byw gyda’i rhieni a’i chwaer ieuengach, wedi bod yn y stiwdio wrth iddi astudio am ei arholiadau TGAU. Mae hi’n mwynhau chwarae’r piano, y clarinet, drymiau a’r delyn, yn ogystal â chanu. Mae hi hefyd yn chwarae pêl-rwyd ac yn rhedeg – gan hyd yn oed fynd trwodd i rownd derfynol rhedeg Traws Gwlad Ysgolion Cymru.
Cerddoriaeth, serch hynny, fydd cariad cyntaf Elan. Mae’r llais newydd nefolaidd o ‘Wlad y Gân’ yn sicr o swyno cynulleidfaoedd am flynyddoedd i ddod.
button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/MyServices”] COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR