Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhiant sy’n poeni?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Rhiant sy’n poeni?
Pobl a lleY cyngor

Rhiant sy’n poeni?

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 1, 2018 2:07 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Rhiant sy’n poeni?
RHANNU

Yn pendroni ynghylch sut i addysgu eich plant am gyffuriau ac alcohol?

Cynnwys
  • Canolbwyntio ar y Teulu
  •  “Cefnogaeth hanfodol”

Dyma dîm Cyngor Wrecsam a addysgodd dros 3000 o bobl ifanc llynedd!

Mae tîm Pobl Ifanc In2Change Cyffuriau ac Alcohol, prosiect ieuenctid a leolir yn y Siop Wybodaeth yn Wrecsam, yn dathlu 10 mlynedd o gefnogi pobl ifanc a rhieni yn y fwrdeistref sirol.

Mae’r prosiect, a sefydlwyd yn 2008, yn bartneriaeth rhwng Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’n cefnogi ac yn addysgu pobl ifanc, rhwng 11 ac 18 mlwydd oed sy’n defnyddio cyffuriau ac alcohol.

 

Canolbwyntio ar y Teulu

Yn ogystal â helpu pobl ifanc yn uniongyrchol, mae’r tîm yn darparu dwy raglen i rieni hefyd:

  • Gwarchod eich Plant oddi wrth Cyffuriau
  • Ymdopi â Dicter

Gall y rhaglenni hyn roi cymorth drwy gynorthwyo rhieni gydag ymdopi â materion penodol yn ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

Mae’r rhaglenni yn seiliedig ar dystiolaeth a fyddai o gymorth i rieni gyda rhianta, a mynd i’r afael â’r heriau ychwanegol yn ymwneud â chyffuriau ac alcohol y gallent eu hwynebu nawr ac yn y dyfodol.

Cefnogaeth wedi’i theilwra

Mae’r prosiect yn cynnig cefnogaeth wedi’i theilwra i Bobl ifanc ar sawl agwedd o’u bywydau – nid cyffuriau ac alcohol yn unig. Cynhelir sesiynau un i un mewn lleoliad a ddewisir gan y Bobl Ifanc – lle bynnag maent yn teimlo’n gartrefol gydag ymgysylltiad ar sail wirfoddol. Drwy archwilio gwybodaeth ffeithiol a chyngor, anogir pobl ifanc i ystyried risgiau, sy’n eu galluogi i gymryd rheolaeth a gwneud penderfyniadau gwybodus.

Mae In2Change yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol i alluogi Pobl Ifanc, yn seiliedig ar ba nodau yr hoffent eu cyflawni.

Gallai hyn gynnwys:

  • Lleihau niwed
  • Gostyngiadau wedi’u cynllunio
  • Atal atglafychiad
  • Cyflwyno/cynyddu gweithgareddau cymdeithasol
  • Gweithgareddau i Ddifyrru
  • Gwaith penodol megis rheoli dicter a hylendid cwsg

Mae sesiwn galw heibio ar gael hefyd sy’n agored i bobl ifanc bob dydd Llun rhwng 3-5.30pm yn y Siop Wybodaeth.

EWCH YN WYRDD – DEWISWCH FILIAU TRETH CYNGOR DI-BAPUR…

Cymorth i addysgu dros 3000 o bobl ifanc lleol

O fis Ebrill 2017 hyd at fis Mawrth 2018, derbyniodd In2change 86 atgyfeiriad a darparwyd sesiynau addysgu anffurfiol ar draws ysgolion, Clybiau Ieuenctid a grwpiau eraill i dros 3300 o bobl ifanc yn Wrecsam.

 “Cefnogaeth hanfodol”

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol dros Bobl Ifanc, “Dyma brosiect gwych sy’n cynnig cefnogaeth ac addysg hanfodol i bobl ifanc a rhieni ar draws Wrecsam. Mae darparu cefnogaeth o safon i bobl ifanc ynghylch weu defnydd o sylweddau yn eithriadol o bwysig ac mae’n wych bod In2change wedi bod yn darparu cymorth a chanllaw arbenigol am 10 mlynedd yn Wrecsam.”

Am ragor o wybodaeth am In2change a sut y gallent eich helpu chi, cysylltwch â’t tîm:

01978295629

Cyflym, effeithlon ac yn dda am yr amgylchedd – dewiswch filiau Treth Cyngor di-bapur trwy FyNghyfrif

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/MyServices”] COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Seren sioe oriau brig ITV o Wrecsam i berfformio yn Nhŷ Pawb Seren sioe oriau brig ITV o Wrecsam i berfformio yn Nhŷ Pawb
Erthygl nesaf Wrexham Council News Os yw rhywun yr ydych yn ei garu â dementia, efallai yr hoffech ddarllen hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English