Ar ddydd Iau 10 Hydref 2024 rhwng 12.00 a 13.30, bydd David Miller Architects yn cynnal ail sesiwn galw heibio gymunedol anffurfiol ar gyfer rhieni, aelodau’r cyhoedd a chymuned ehangach Ysgol St Christopher, Wrecsam. Bydd hwn yn gyfle i aelodau’r cyhoedd ddarganfod mwy a gweld cynlluniau a dyluniadau posibl ar gyfer adeilad yr ysgol newydd arfaethedig.
Cynhelir y sesiwn yng Nghwt y Sgowtiaid 8 Sontley Road, Wrecsam LL13 7EN.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg “Mae hwn yn brosiect cyffrous sydd wedi bod yn 7 mlynedd yn yr aros, felly rwy’n falch bod y buddsoddiad sylweddol hwn yn y gymuned yn bwrw ‘mlaen o’r diwedd. “Byddwn yn annog rhieni a disgyblion yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol, yn ogystal â phartïon â diddordeb i alw heibio, er mwyn darganfod mwy am y cynlluniau cysyniad cychwynnol ar gyfer dylunio adeilad newydd yr ysgol.”