Ffordd wych o gadw’n heini
Mae yna lawer o ffyrdd i gadw’n heini, ac ar ddechrau Blwyddyn Newydd, byddwch yn aml yn gweld hyrwyddiadau ar gyfer aelodaeth o’r gampfa a dosbarthiadau ymarfer corff dwys.
Ond nid dyna’r unig ffordd i wella eich ffitrwydd. Mae nofio yn cynnig lleoliad mwy hamddenol ac yn rhoi’r opsiwn i chi fynd ar eich cyflymder eich hun – p’un a yw hynny’n araf, cyflym, neu yn y canol!
Yn aml, gall gorfod cadw at gyllideb ei gwneud hi’n anoddach aros yn gyson o ran ymarfer corff hefyd – felly gallai gwybod y gallwch gael mynediad i fannau ffitrwydd heb unrhyw gost helpu gyda hyn.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles Oedolion, “Rydym yn atgoffa pobl bod y sesiynau nofio am ddim hyn yn cael eu cynnal mewn tair o’n canolfannau Freedom Leisure ledled Sir Wrecsam. Mae hyn yn cynnig y cyfle i’r rhai yn y grwpiau oedrannau iau a hŷn wella eu lles trwy ymarfer corff yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.
Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Ardal, “Yn Freedom Leisure, rydym yn falch iawn o allu cefnogi’r fenter hon ar draws ein holl byllau nofio yn Wrecsam. Edrychwn ymlaen at weld mwy o’n cymuned leol yn cadw’n heini ac yn mwynhau ein cyfleusterau gwych ledled y fwrdeistref.”
Pwy all ymuno â’r sesiynau?
Os ydych yn 16 oed neu’n iau, neu’n 60 oed ac yn hŷn, a’ch bod yn byw yng Nghymru, yna byddwch yn gymwys i gael mynediad at y sesiynau.
Mae’r rhain yn sesiynau agored, diarweiniad i unrhyw un sy’n gymwys – i’r rheini sydd eisoes yn gallu nofio.
Os ydych yn awyddus i roi cynnig ar ddysgu nofio am y tro cyntaf, neu i wella eich hyder a’ch techneg, gallwch wirio pa wersi nofio a fyddai’n iawn i chi yn lle hynny. Yna, gallwch gofrestru ar-lein neu gysylltu â Freedom Leisure gydag unrhyw gwestiynau ychwanegol.
Pryd a ble mae’r sesiynau nofio am ddim yn digwydd yn Wrecsam?
Cynhelir y sesiynau bob wythnos o’r flwyddyn, gan gynnwys yn ystod gwyliau’r ysgol:
16 oed ac iau
- Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr ar ddydd Sadwrn rhwng 3pm a 4pm
- Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Y Waun ar ddydd Sul rhwng 1pm a 2pm
- Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans ar ddydd Sul rhwng 1pm a 2pm
60 oed a throsodd
- Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr ar ddydd Mawrth rhwng 11am a 12pm
- Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Y Waun ar ddydd Gwener rhwng 12pm ac 1pm
- Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans ar ddydd Iau rhwng 3pm a 4pm
Beth sydd angen i mi ddod gyda mi?
Bydd angen i chi ddod â dull adnabod sy’n profi eich bod yn byw yng Nghymru (gyda’ch enw a’ch cyfeiriad arno), i’w ddangos i staff y dderbynfa.
A chofiwch eich dillad ac offer nofio hefyd!
Rhieni, gwarcheidwaid neu ofalwyr sy’n bresennol
Cymarebau oedolion a phlant
Rhaid i blant dan wyth oed fod yng nghwmni oedolyn ar sail 2 i 1. Mae hyn yn golygu y gall un oedolyn ddod â dau blentyn dan wyth oed i’r pwll ar gyfer y sesiynau hyn.
Gall plant wyth oed a hŷn fynd i mewn i’r dŵr ar eu pennau eu hunain dim ond os ydynt yn gallu nofio heb oruchwyliaeth oedolion.
Y tu allan i’r pwll
Mae seddi ar gael ym mhob safle (dim ond o’r ardal eistedd y gellir gweld y pyllau nofio yng nghanolfannau’r Byd Dŵr a Gwyn Evans).
Mae lluniaeth ar gael ym mhob safle (Caffi Costa yng nghanolfan y Byd Dŵr, peiriannau coffi/gwerthu bwyd yng nghanolfannau’r Waun a Gwyn Evans) yn ogystal â WiFi am ddim.
Eisiau rhagor o wybodaeth?
Cysylltwch â’r canolfannau hamdden yn uniongyrchol drwy ddod o hyd i fanylion cyswllt drwy’r dolenni sydd wedi’u cynnwys ar y dudalen hon.