Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sesiynau nofio wythnosol am ddim i bobl dan 16 oed a thros 60 oed
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Sesiynau nofio wythnosol am ddim i bobl dan 16 oed a thros 60 oed
Y cyngorPobl a lle

Sesiynau nofio wythnosol am ddim i bobl dan 16 oed a thros 60 oed

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 17, 2025 5:05 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Arwyneb pwll nofio dan do
RHANNU

Ffordd wych o gadw’n heini

Mae yna lawer o ffyrdd i gadw’n heini, ac ar ddechrau Blwyddyn Newydd, byddwch yn aml yn gweld hyrwyddiadau ar gyfer aelodaeth o’r gampfa a dosbarthiadau ymarfer corff dwys.

Cynnwys
  • Ffordd wych o gadw’n heini
  • Pwy all ymuno â’r sesiynau?
  • Pryd a ble mae’r sesiynau nofio am ddim yn digwydd yn Wrecsam?
    • 16 oed ac iau
    • 60 oed a throsodd
  • Beth sydd angen i mi ddod gyda mi?
  • Rhieni, gwarcheidwaid neu ofalwyr sy’n bresennol
    • Cymarebau oedolion a phlant
    • Y tu allan i’r pwll
  • Eisiau rhagor o wybodaeth?

Ond nid dyna’r unig ffordd i wella eich ffitrwydd. Mae nofio yn cynnig lleoliad mwy hamddenol ac yn rhoi’r opsiwn i chi fynd ar eich cyflymder eich hun – p’un a yw hynny’n araf, cyflym, neu yn y canol!

Yn aml, gall gorfod cadw at gyllideb ei gwneud hi’n anoddach aros yn gyson o ran ymarfer corff hefyd – felly gallai gwybod y gallwch gael mynediad i fannau ffitrwydd heb unrhyw gost helpu gyda hyn.

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles Oedolion, “Rydym yn atgoffa pobl bod y sesiynau nofio am ddim hyn yn cael eu cynnal mewn tair o’n canolfannau Freedom Leisure ledled Sir Wrecsam. Mae hyn yn cynnig y cyfle i’r rhai yn y grwpiau oedrannau iau a hŷn wella eu lles trwy ymarfer corff yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Ardal, “Yn Freedom Leisure, rydym yn falch iawn o allu cefnogi’r fenter hon ar draws ein holl byllau nofio yn Wrecsam. Edrychwn ymlaen at weld mwy o’n cymuned leol yn cadw’n heini ac yn mwynhau ein cyfleusterau gwych ledled y fwrdeistref.”

Pwy all ymuno â’r sesiynau?

Os ydych yn 16 oed neu’n iau, neu’n 60 oed ac yn hŷn, a’ch bod yn byw yng Nghymru, yna byddwch yn gymwys i gael mynediad at y sesiynau.

Mae’r rhain yn sesiynau agored, diarweiniad i unrhyw un sy’n gymwys – i’r rheini sydd eisoes yn gallu nofio.

Os ydych yn awyddus i roi cynnig ar ddysgu nofio am y tro cyntaf, neu i wella eich hyder a’ch techneg, gallwch wirio pa wersi nofio a fyddai’n iawn i chi yn lle hynny. Yna, gallwch gofrestru ar-lein neu gysylltu â Freedom Leisure gydag unrhyw gwestiynau ychwanegol.

Pryd a ble mae’r sesiynau nofio am ddim yn digwydd yn Wrecsam?

Cynhelir y sesiynau bob wythnos o’r flwyddyn, gan gynnwys yn ystod gwyliau’r ysgol:

16 oed ac iau

  • Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr ar ddydd Sadwrn rhwng 3pm a 4pm
  • Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Y Waun ar ddydd Sul rhwng 1pm a 2pm
  • Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans ar ddydd Sul rhwng 1pm a 2pm

60 oed a throsodd

  • Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr ar ddydd Mawrth rhwng 11am a 12pm
  • Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Y Waun ar ddydd Gwener rhwng 12pm ac 1pm
  • Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans ar ddydd Iau rhwng 3pm a 4pm

Beth sydd angen i mi ddod gyda mi?

Bydd angen i chi ddod â dull adnabod sy’n profi eich bod yn byw yng Nghymru (gyda’ch enw a’ch cyfeiriad arno), i’w ddangos i staff y dderbynfa.

A chofiwch eich dillad ac offer nofio hefyd!

Rhieni, gwarcheidwaid neu ofalwyr sy’n bresennol

Cymarebau oedolion a phlant

Rhaid i blant dan wyth oed fod yng nghwmni oedolyn ar sail 2 i 1. Mae hyn yn golygu y gall un oedolyn ddod â dau blentyn dan wyth oed i’r pwll ar gyfer y sesiynau hyn.

Gall plant wyth oed a hŷn fynd i mewn i’r dŵr ar eu pennau eu hunain dim ond os ydynt yn gallu nofio heb oruchwyliaeth oedolion.

Y tu allan i’r pwll

Mae seddi ar gael ym mhob safle (dim ond o’r ardal eistedd y gellir gweld y pyllau nofio yng nghanolfannau’r Byd Dŵr a Gwyn Evans).

Mae lluniaeth ar gael ym mhob safle (Caffi Costa yng nghanolfan y Byd Dŵr, peiriannau coffi/gwerthu bwyd yng nghanolfannau’r Waun a Gwyn Evans) yn ogystal â WiFi am ddim.

Eisiau rhagor o wybodaeth?

Cysylltwch â’r canolfannau hamdden yn uniongyrchol drwy ddod o hyd i fanylion cyswllt drwy’r dolenni sydd wedi’u cynnwys ar y dudalen hon.

Rhannu
Erthygl flaenorol Canghennau rhewllyd coed heb ddail Dewch i roi help llaw a helpwch i blannu coed ym Mhenycae!
Erthygl nesaf Wrexham Library Cyfnod Cyffrous ar gyfer “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English