Mae perchennog siop yn Wrecsam wedi pledio’n euog i werthu alcohol heb drwydded.
Clywodd Llys Ynadon Wrecsam fod Adran Drwyddedu’r Cyngor wedi canfod Abdulaziz Buyukdeniz yn gwerthu alcohol yn ei siop gyfleustodau ar Ffordd Melin y Brenin, Wrecsam, tafarn ‘Traveller’s Rest’ gynt, yn fuan ar ôl agor y busnes ym mis Mehefin y llynedd. Roedd Mr Buyukdeniz wedi addasu’r hen dafarn yn siop gyfleustodau lwyddiannus a dywedodd ei fod yn credu bod y drwydded flaenorol yn parhau i fod mewn grym,
Cafodd ryddhad amodol am 12 mis a gorchymyn i dalu £607.00 o gostau.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio Strategol a Gwarchod y Cyhoedd, “Mae’n rhaid i fusnesau sicrhau fod ganddynt y trwyddedau cyfreithiol cywir ar waith. Mae’n ddyletswydd ar y Cyngor i sicrhau fod masnachwyr yn cydymffurfio â’r safonau cyfreithiol gofynnol.”
Meddai Roger Mapleson, Swyddog Arweiniol Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Mae’r system drwyddedu’n bodoli er mwyn rheoli gwerthiant cynnyrch a allai achosi niwed i unigolion a chymunedau. Mae cyflenwi alcohol heb reolaeth yn cynyddu’r risg i unigolion, gan gynnwys mynediad at alcohol i blant na ddylent fod yn gallu cael mynediad ato, ac mae hefyd yn peri risg i gymunedau a allai brofi effaith niweidiol yn sgil ymddygiad anghymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol. Mae hefyd yn bwysig fod deiliaid trwyddedau’n gwybod nad ydynt yn cael eu tanseilio gan weithredwyr didrwydded drwy gydymffurfio â’u rhwymedigaethau cyfreithiol.” Clywodd y llys fod y safle bellach wedi derbyn y drwydded gywir ar gyfer gwerthu alcohol.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen – Ddigwyddiadau ar draws Wrecsam yn cynnwys cnocwyr Nottingham