Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’r ymgynghoriad ffioedd meysydd parcio ar agor – cyfle i gael dweud eich dweud!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae’r ymgynghoriad ffioedd meysydd parcio ar agor – cyfle i gael dweud eich dweud!
Y cyngorPobl a lle

Mae’r ymgynghoriad ffioedd meysydd parcio ar agor – cyfle i gael dweud eich dweud!

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 19, 2024 10:46 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Waterworld
RHANNU

Mae ein hymgynghoriad ynglŷn ag ailgyflwyno ffioedd parcio mewn meysydd parcio canol y ddinas a weithredir gan y Cyngor o 1 Ebrill, 2024 ar agor, felly os ydych eisiau cael dweud eich dweud ar y cynigion dyma’ch cyfle i wneud hynny.

Ar hyn o bryd mae bob maes parcio’r Cyngor yng nghanol y ddinas heblaw Tŷ Pawb am ddim i’w defnyddio ar ôl 11am. Sefydlwyd hyn i gefnogi gweithwyr allweddol a busnesau yng nghanol y ddinas yn ystod ac ar ôl y pandemig coronafeirws.

Rydym bellach mewn sefyllfa ble mae’n rhaid i ni ail-edrych ar hyn wrth i ni ganfod arbedion effeithlonrwydd i ddeilio gyda diffyg o £22.6 miliwn yn y gyllideb y flwyddyn nesaf. Cynigir y bydd ffioedd ar gyfer parcio ar ôl 11am yn dod i rym o 1 Ebrill, 2024.

Bydd yr ymgynghoriad statudol hwn yn weithredol o 9 Chwefror, 2024 tan 8 Mawrth, 2024.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydym yn parhau i edrych ar lawer o syniadau gwahanol a chyfleoedd a fydd yn ein helpu i ganfod arbedion, ac yn anffodus mae ailgyflwyno ffioedd meysydd parcio o 1 Ebrill yn rhywbeth rydym wedi gorfod edrych arno. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi siopwyr, ymwelwyr a busnesau trwy gadw’r ffioedd hyn yn deg ac rydym yn croesawu pawb i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad ar hyn.”

Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ffioedd meysydd parcio ar-lein trwy Eich Llais.

Neu gallwch e-bostio eich ymateb i: parking@wrexham.gov.uk

Gallwch wneud cais i weld copïau papur o unrhyw ddogfennau a chynlluniau drafft yn:

Adran yr Amgylchedd, De Ffordd yr Abaty, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, LL13 9PW

Galw Wrecsam (yn Llyfrgell Wrecsam), Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1AU

Sicrhewch y cyflwynir eich ymateb cyn i’r ymgynghoriad gau ar 8 Mawrth, 2024.

CYMRYD RHAN YN YR YMGYNGHORIAD

Dweud eich dweud ar y ffordd rydym yn rheoli llifogydd (wrecsam.gov.uk)

Mae Castanwydden Bêr Wrecsam wedi cyrraedd cystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn. Ewch i fwrw eich pleidlais yn awr i sicrhau ei bod yn cael cydnabyddiaeth eang y mae’n ei haeddu

TAGGED:car parkparcioparking
Rhannu
Erthygl flaenorol Local Builder Erlyn adeiladwr lleol am adael preswylydd heb ystafell ymolchi
Erthygl nesaf Alcohol Perchennog siop yn gwerthu alcohol heb drwydded

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English