Mae angen eich help arnom.
Rydym eisiau deall profiadau siaradwyr Cymraeg lleol wrth gael mynediad i wasanaethau’r cyngor yn y Gymraeg. Rydym hefyd eisiau gwybod sut y defnyddir yr iaith Gymraeg ar draws y fwrdeistref sirol yn ddyddiol.
Rydym eisiau casglu gwybodaeth a barn dysgwyr a disgyblion Cymraeg yn ein hysgolion Cymraeg i gael darlun ehangach o sut y defnyddir yr iaith yn Wrecsam. Byddwn yn cynnal yr ymgynghoriad hwn eto yn 2021 a 2022 i gymharu’r canfyddiadau.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Fe hoffwn annog pob siaradwr Cymraeg i gymryd rhan a llenwi’r arolwg hwn. Mae’r rhain yn amseroedd cyffrous iawn i’r Gymraeg ac mae’n hanfodol ein bod yn gwneud y cyfan y gallwn ni i’w datblygu ymhellach.”
Cwblhewch yr arolwg yma.
Diddordeb mewn gwersi nofio Cymraeg?
Hefyd hoffem i chi adael i ni wybod os byddai gennych ddiddordeb mewn gwersi nofio Cymraeg. Mewn partneriaeth gyda Freedom Leisure rydym yn asesu pa un a oes yna alw am wersi nofio yn y Gymraeg.
Rhowch wybod i ni!
Cwblhewch ein harolwg byr yma.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r safonau Iaith Gymraeg a chyfleoedd i ddysgu Cymraeg ewch i’r wefan.