Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pobl ifanc yn dysgu am sgiliau adeiladu treftadaeth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Pobl ifanc yn dysgu am sgiliau adeiladu treftadaeth
Y cyngor

Pobl ifanc yn dysgu am sgiliau adeiladu treftadaeth

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 5, 2020 10:31 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Heritage event
RHANNU

Gwnaeth gwaith i ddiogelu ein treftadaeth ac adfywio eiddo yng nghanol tref Wrecsam gymryd cam ymlaen yn ddiweddar, pan gafodd disgyblion y cyfle i fynychu digwyddiad yng Ngholeg Cambria i ddysgu am sgiliau adeiladu treftadaeth.

Cynnwys
  • “Mae dy ddwylo wedi eu creu ar gyfer gwychder”
  • “Dyma gyfle gwych i’r rheiny sydd â diddordeb mewn crefft”

Mae’r gwaith yn dilyn cyhoeddiad y llynedd fod £1.5 miliwn wedi’i ddyfarnu i helpu i adnewyddu ac adfywio eiddo yn Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam.

Gwnaeth rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol gyflenwol – gyda’r nod o uwchsgilio masnachwyr a chontractwyr – gymryd cam ymlaen arall yn ddiweddar pan fynychodd pobl ifanc y digwyddiad yng Ngholeg Cambria.

COFRESTRWCH I DDERBYN HYSBYSIADAU GWEITHGARWCH GRAEANU

Bydd rhai o’n partneriaid sy’n ymwneud â’r Cynllun Treftadaeth Treflun a’r rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol yn ymuno â’r disgyblion, ac roeddent yn gallu siarad â chyflogwyr a hyfforddwyr.

Rhoddodd y diwrnod y cyfle i:

  • Gael taith o amgylch y campws
  • Siarad gyda thiwtoriaid adeiladu.
  • Deall yr angen am sgiliau mewn adeiladu treftadaeth.
  • Mynychu sgyrsiau i archwilio’r pwnc yn fwy manwl.
  • Cael mynediad i waith posibl a lleoliadau ysgol drwy Gynllun Treftadaeth Treflun Wrecsam.

“Mae dy ddwylo wedi eu creu ar gyfer gwychder”

Fe wnaethom ni weithio gyda’r bardd llafar Evrah Rose o Wrecsam i weld a fedrai hi grynhoi naws y prosiect – ac fe ysgrifennodd ddarn i atgoffa pobl bod eu dwylo wedi eu creu ar gyfer gwychder.

Edrychwch ar y fideo isod i weld Evrah yn darllen ei phennill…

“Dyma gyfle gwych i’r rheiny sydd â diddordeb mewn crefft”

Dywedodd y Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: “Mae llawer o waith cyffrous wedi ei gynllunio yn Wrecsam drwy’r Cynllun Treftadaeth Treflun, a’r rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol, dyma gyfle gwych i bobl ifanc Wrecsam sydd â diddordeb yn y crefftau traddodiadol.

“Bydd cyflogwyr wastad yn chwilio am y rheiny sydd â’r sgiliau ychwanegol, a nod digwyddiadau fel hwn yw dangos i bobl ifanc sut gallant gael mynediad i’r hyfforddiant yn y sgiliau mwy arbenigol sydd eu hangen gan gyflogwyr yn y sector adeiladu treftadaeth.”

Darparwyd y cwrs hwn yn rhad ac am ddim drwy raglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol Wrecsam. Mae wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru a sicrhawyd cyllid drwy hyfforddiant ‘Rho Gynnig Arni’, menter gan Lywodraeth Cymru.

Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new”] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Recycling Bins In Cab Technology Mae’r dechnoleg hon yn ein helpu pan rydym yn gwagu ein biniau ac yn ailgylchu
Erthygl nesaf wales Siaradwr Cymraeg?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadau

Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English