Mae Freedom Leisure, sy’n rhedeg ein holl ganolfannau hamdden a gweithgareddau, yn chwilio am Athrawon Nofio brwdfrydig sy’n siarad Cymraeg i ymuno â’r tîm cyfeillgar a phroffesiynol.
Allech chi weithio fel rhan o dîm ysgol nofio llwyddiannus yn achlysurol, gan addysgu naill ai mewn grŵp neu wersi unigol?
Bydd angen i chi fod yn frwd am nofio ac am addysgu, gan sicrhau bod gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn cael ei ddarparu bob amser.
Mae cymhwyster Athro Nofio Lefel 2 yn ddymunol, ond mae hyfforddiant llawn ar gael (am ddim) ar gyfer yr ymgeiswyr cywir.
Meddai Richard Milne, Rheolwr Ardal Freedom Leisure Wrecsam: “Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ein hymrwymiad i ddarparu gwersi nofio Cymraeg eu hiaith ar draws y fwrdeistref. Mae gennym ni gyfle gwych i’r person cywir sy’n siarad Cymraeg ymuno â’n tîm cyfeillgar a helpu i gyflwyno’r sgil bywyd pwysig hwn i blant ac oedolion.”
Meddai Stephen Jones, Swyddog Y Gymraeg: “Fel awdurdod lleol Cymreig, rydym wedi ymrwymo i ddarparu mwy o wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg i’n trigolion. Mae ein partneriaid yn Freedom Leisure yn deall hyn yn iawn ac rydym yn gweithio gyda’n gilydd i ddenu mwy o siaradwyr Cymraeg i’r tîm, ond hefyd yn annog staff di-Gymraeg i ddysgu Cymraeg ar gyfer ei defnyddio yn y gweithle.”
Oes gennych chi ddiddordeb? Cliciwch ar y botwm isod i weld y swydd-ddisgrifiad llawn ac i wneud cais.
EWCH Â FI AT Y SWYDD
Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.