Mae yna newyddion gwych i amgylchedd naturiol Wrecsam yn dilyn cyhoeddiad ein bod ni wedi bod yn llwyddiannus â chais am bron i £500,000 i feithrin natur a gwella iechyd a lles pobl trwy wella’r amgylchedd naturiol.
Roedd y Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant yng Nghymru yn broses gystadleuol iawn gyda cheisiadau o bob cwr o Gymru!
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio dros dair blynedd mewn prosiectau ym Mharc Caia, Plas Madoc ac yn ein Parciau Gwledig i blannu dolydd blodau gwyllt i annog a denu pryfed peillio – gan gynnwys gwenyn, gloÿnnod byw a gwenyn meirch – gwella mynediad i lefydd naturiol, plannu perllannau a choed a rheoli coetir.
Byddwn yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Chadwch Gymru’n Daclus a byddwn wrth gwrs yn cynnwys y gymuned leol gymaint ag y gallwn.
“Da iawn i bawb sydd wedi bod yn gweithio ar hyn!”
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydw i’n croesawu’r newyddion yma a fydd yn gwella ein parciau gwledig a’n mannau gwyrdd er budd ein cymunedau. Da iawn i bawb sydd wedi bod yn gweithio ar hyn!”
Mae’r prosiect cyntaf yn cychwyn gyda dôl draddodiadol o flodau gwyllt ar dir agored oddi ar Heol y Frenhines. Bydd yn cynnwys blodau a glaswellt prin a fyddai i’w gweld mewn dolydd ar draws y sir, ond mae newidiadau o ran arferion ffermio a rheoli glaswelltir dros y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at lai ohonynt. Bydd yn noddfa i bryfed ac yn lle i’r gymuned leol ei fwynhau.
Mae cynlluniau am berllan newydd hefyd, a chyfle i blant lleol wasgu afalau yn nes ymlaen yn yr hydref ac fe gewch chi’r wybodaeth ddiweddaraf am bob dim sy’n digwydd.
Os hoffech chi fod yn rhan o’r prosiect hwn, un ai yn ymarferol neu trwy helpu gyda gwaith arolygu neu os oes gennych chi eich syniadau eich hun, cysylltwch â’n Swyddog Ecoleg a Bioamrywiaeth ar 01978 2987662 neu anfon e-bost at planning@wrexham.gov.uk
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD