Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sicrhau cyllid ar gyfer paneli solar ar ganolfannau hamdden yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Sicrhau cyllid ar gyfer paneli solar ar ganolfannau hamdden yn Wrecsam
Busnes ac addysgY cyngor

Sicrhau cyllid ar gyfer paneli solar ar ganolfannau hamdden yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 29, 2022 2:35 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Solar PV
RHANNU

Yn rhan o’n gwaith i ddatgarboneiddio ein hadeiladau a chyrraedd y targed o sero net erbyn 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus, mae cyllid pwysig wedi’i sicrhau i osod paneli solar PV ar ganolfannau hamdden yn Wrecsam.

Rydym wedi cael £180,000 o Gronfa Gydweithredu Asedau Llywodraeth Cymru ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda Freedom Leisure, a gallwn bellach wneud rhywfaint o’r datblygiadau angenrheidiol yn ein cynlluniau ar gyfer datgarboneiddio adeiladau cyhoeddus. Yn ychwanegol at hyn, mae £128,232 o gyllid y mae Freedom Leisure wedi’i gael o Gronfa Cyfalaf Chwaraeon Cymru.

Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Cefnogwr yr Hinsawdd: “Mae gosod paneli solar PV yn ddull arloesol, sydd yn caniatáu i ni fod yn hunangynhaliol ac yn lleihau’r ynni sy’n cael ei ddefnyddio o’r grid ar hyn o bryd yn sylweddol, gan arwain at ostyngiad mewn nwyon tŷ gwydr ac arbedion carbon.

“Mae hefyd yn galluogi cynhyrchu ynni lleol glân a chynaliadwy i’w ddefnyddio gan y canolfannau, a fydd yn gweithredu fel enghraifft weledol o newid y gellir ei ddilyn gan sefydliadau a chymunedau eraill yn Wrecsam.”

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am Hamdden: “Rydym eisiau arwain trwy esiampl gyda’r pethau rydym ni’n ei wneud i ymateb i’r argyfwng hinsawdd, felly rydym wrth ein bodd y bydd modd i ni osod paneli solar PV ar ein canolfannau hamdden yn Wrecsam. Fe fyddant yn ychwanegiad i’w groesawu a fydd yn ein helpu i leihau ein heffaith amgylcheddol yn sylweddol.”

Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Ardal ar gyfer Gogledd Cymru yn Freedom Leisure: “Rydym ni wrth ein boddau i fod yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Wrecsam ar y prosiect yma a fydd yn arbed ynni. Yn union fel y Cyngor, rydym ni’n ymroddedig i’n targedau Sero Net a lleihau effaith amgylcheddol gweithredu canolfannau hamdden.

“Mae ynni adnewyddadwy megis paneli PV solar, yn gyfansoddyn allweddol i gyflawni’r targed yma trwy gydweithio gyda’n partneriaid awdurdod lleol, yn ogystal â’n cydweithwyr a chwsmeriaid i leihau’r ynni a ddefnyddir, byddwn yn chwarae ein rhan i fynd i’r afael â’r argyfwng byd-eang.”

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Cyllid Dylunio Systemau Gwresogi Carbon Isel

Rydym hefyd wedi cael £30,000 o Grant Datblygu Systemau Gwresogi Carbon Isel o Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a fydd yn sicrhau bod y £34,000 sydd wedi’i nodi gan CBSW yn gallu darparu gwerth gwell am arian.

Bydd y cyllid yn mynd tuag at ddatblygu dyluniadau cynhwysfawr a phriodol ar gyfer gwelliannau i’r systemau gwresogi ar bump safle sydd angen eu diweddaru. Dewiswyd y safleoedd yma ar gyfer y gwaith datblygu ar sail eu math o danwydd sydd ag allyriadau carbon uchel ar hyn o bryd, lefelau defnydd ynni a sgoriau DEC/EPC isel.

Y pum safle, a fydd â systemau gwresogi carbon yn cael eu dylunio yw:

  • Depo Cludiant De Ffordd yr Abaty
  • Ysgol Gynradd Eyton
  • Ysgol Gynradd Gymuned Froncysyllte
  • Ysgol Gynradd y Mwynglawdd
  • Ysgol Cynddelw

Bydd y dyluniadau yma’n sicrhau y gallwn ni gael gafael ar gyllid pellach i weithredu systemau gwresogi gwell yn y dyfodol.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Prosiect HWB Amlddiwylliannol yn Wrecsam i dderbyn Grant Llywodraeth Cymru Prosiect HWB Amlddiwylliannol yn Wrecsam i dderbyn Grant Llywodraeth Cymru
Erthygl nesaf Renting your home? Yn rhentu eich cartref? Fe allai Tystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) â sgôr da helpu i gadw eich biliau ynni i lawr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English