Mae landlord preifat sy’n gweithredu yn Wrecsam wedi cael ei erlyn am beidio â chydymffurfio a Hysbysiad Gwella i wneud gwaith trwsio hanfodol a gyflwynwyd iddo gan Dîm Iechyd Amgylcheddol a Safonau Tai Wrecsam. Pennodd y llys ddirwyon a chostau gwerth £2,295.
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Mae’r Cyngor yn mynd ati’n rhagweithiol i gydweithio â landlordiaid i’w cynorthwyo ac er mwyn codi safonau ar gyfer tenantiaid. Fodd bynnag, os ydynt yn dewis peidio â chydweithredu a chydymffurfio gyda’r gofynion cyfreithiol, ni fyddwn yn meddwl ddwywaith ynglŷn â chymryd camau gweithredu, fel y mae’r achos diweddar yn ei ddangos.”
Gallwch ddod o hyd i restr o’r peryglon y bydd y cyngor yn ymchwilio iddynt yma
Mae’r rhan fwyaf o landlordiaid yn gwneud gwaith trwsio unwaith y maent yn ymwybodol ohono. Fodd bynnag os nad yw eich landlord chi wedi gwneud y gwaith ymhen cyfnod rhesymol o amser, dylech gysylltu â’r adran Iechyd Amgylcheddol a Safonau tai Health andHousing@wrexham.gov.uk neu 01978 292040.
Ydych chi’n landlord preifat?
I ddysgu mwy am sut y mae Cyngor Wrecsam yn cefnogi landlordiaid a thenantiaid ac i gael gwybodaeth ac arweiniad ar faterion penodol dilynwch
Siaradwr Cymraeg? Helpwch ni i wella ein gwasanaethau Cymraeg.
CWBLHEWCH EIN HYMGYNGHORIAD RŴAN