Os ydych chi’n fêpio, mae’n hollbwysig eich bod yn gwybod sut i’w gwaredu’n ddiogel. Mae Recycle Your Electricals yn dweud bod hanner fêps untro’n cael eu taflu i’r bin (dros 5 miliwn yr wythnos) yn y DU, sy’n bryderus iawn.
Mae hyn yn gallu achosi tannau
Mae gwaredu fêps ac eitemau eraill sy’n cynnwys batris yn anghywir wedi achosi tannau ar draws y sector gwastraff dros y misoedd diwethaf, felly byddwch yn hynod ofalus. Fis diwethaf yn Wrecsam, cafwyd tân yng nghanolfan ailgylchu Lôn y Bryn a achoswyd yn ôl pob tebyg gan fatri lithiwm a ddefnyddir yn aml mewn nwyddau trydanol fel fêps.
Mae unrhyw beth sydd â phlwg, batri neu gebl nad yw’n cael ei ailgylchu’n briodol yn peri risg i bobl ac adeiladau, felly sicrhewch nad ydych yn rhoi’r eitemau hyn yn y bin.
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Ni ddylech roi fêps untro na fêps aildrydanadwy mewn unrhyw finiau gwastraff na chynwysyddion ailgylchu ymyl palmant, gan y gallai hynny roi pobl mewn perygl. Pe baent yn cael eu gwasgu neu eu difrodi yn y lorïau biniau neu’r canolfannau ailgylchu, fe allai ddechrau tân, a all fod yn beryglus iawn.”
Beth i’w wneud gyda fêps a ddefnyddiwyd
Gellir derbyn fêps fel Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (CTEG) a gellir eu gwaredu mewn cynhwysydd Peiriannau Domestig Bychain ym mhob un o ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yn Wrecsam.
Mae nifer o siopau ac archfarchnadoedd sy’n gwerthu fêps hefyd yn gadael i chi eu dychwelyd a’u hailgylchu yno. Ymwelwch â thudalen Recycle Your Electricals recycling locator a dewiswch ‘vapes’ yn y gwymplen i weld ble fedrwch chi eu gwaredu.
Beth i’w wneud gyda batris
Gallwch ailgylchu pob math o fatris yn y tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam – hyd yn oed batris car!
Ond os mai ond batris arferol y cartref hoffech eu hailgylchu, ac os yw’n fwy hwylus i chi, dylech gael yr opsiwn i’w hailgylchu yn eich siop leol hefyd.
Mae hyn oherwydd, ers Chwefror 2010, mae’n rhaid i siopau sy’n gwerthu mwy na 32kg o fatris y flwyddyn (tua 345 paced o 4 o fatris AA) ddarparu cyfleusterau ailgylchu yn y siop…felly mae’n rhaid i’r holl archfarchnadoedd a manwerthwyr ddarparu hyn.
Eitemau eraill na allwch eu rhoi yn y biniau
Cynwysyddion nwy
Gall caniau nwy fod yn beryglus, ac felly ni ddylid eu rhoi yn eich bin sbwriel. Os oes gennych un, mae’n well holi’r cwmni ble y gwnaethoch ei brynu, gan y bydd yn bosib iddynt eu hail-lenwi neu ei waredu i chi.
Mae’n bosib ailgylchu poteli nwy llai nad oes modd eu hail-lenwi (a ddefnyddir ar gyfer gwresogydd coginio bach) gyda’r plastigion a’r caniau a gaiff eu casglu yn ymyl palmant DIM OND os nad oes hylif neu nwy ynddynt.
Os oes gennych chi unrhyw beth ar ôl ynddynt, bydd yn rhaid i chi fynd â nhw i ganolfan ailgylchu Plas Madog neu Brymbo (Y Lodge). Ni allwn dderbyn caniau nwy yng nghanolfan ailgylchu Lôn y Bryn yn sgil cyfyngiadau trwydded.
Caniau ocsid nitraidd
Os oes gennych chi ganiau ocsid nitraidd, ewch â nhw i ganolfan ailgylchu Plas Madog neu Brymbo (Y Lodge). Ni allwn dderbyn caniau ocsid nitraidd yng nghanolfan ailgylchu Lôn y Bryn yn sgil cyfyngiadau trwydded.
I gael mwy o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i wrecsam.gov.uk/ailgylchu