Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhybudd Sgam!  Byddwch yn ymwybodol o Ddefnyddiwr Facebook sy’n hysbysebu digwyddiadau ffug yn lleol 
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Rhybudd Sgam!  Byddwch yn ymwybodol o Ddefnyddiwr Facebook sy’n hysbysebu digwyddiadau ffug yn lleol 
Y cyngorPobl a lle

Rhybudd Sgam!  Byddwch yn ymwybodol o Ddefnyddiwr Facebook sy’n hysbysebu digwyddiadau ffug yn lleol 

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 23, 2024 8:47 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Rhybudd Sgam!  Byddwch yn ymwybodol o Ddefnyddiwr Facebook sy’n hysbysebu digwyddiadau ffug yn lleol 
RHANNU

Mae Gwyliau Bwyd, Marchnadoedd Artisan a ffeiriau lleol yn boblogaidd iawn ar draws y rhanbarth ac mae masnachwyr lleol yn awyddus i gymryd rhan ynddynt, ond mae’r Safonau Masnach bellach yn rhybuddio pawb sy’n ystyried cymryd rhan mewn digwyddiad o’r fath i fod yn ofalus iawn a gwirio gyda’r lleoliad a hysbysebir cyn darparu unrhyw arian os nad ydynt yn adnabod yr unigolyn sy’n hysbysebu.

Maent wedi dod i wybod yn ddiweddar am gyfrif facebook sy’n defnyddio’r enw Elvis Kosegi, ond gallant hefyd fod yn defnyddio enwau eraill nad ydynt yn ymwybodol ohonynt i gynnig stondinau mewn ffeiriau haf ffug yng Nghanolfan Goffa Brynteg am £40 – mae un enghraifft yn gofyn am daliadau drwy Paypal – gweler diwedd yr erthygl. 

Mae’r cyfrif bellach wedi cael ei ddileu ar ôl i ddefnyddiwr roi gwybod am eu hamheuon.

Meddai Roger Mapleson, Swyddog Arweiniol Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Er nad yw’r twyll hwn yn un soffistigedig iawn, mae £40 yn swm sylweddol o arian i’w golli gan fasnachwyr lleol neu ranbarthol, a gallai’r twyllwr wneud cannoedd neu hyd yn oed filoedd o bunnoedd drwy hysbysebu ar grwpiau facebook lleol neu gyfryngau cymdeithasol eraill.

“Byddwch yn wyliadwrus iawn cyn rhoi unrhyw arian a gwiriwch fod y digwyddiad yn bodoli a bod y gwerthwr yn ddilys.  Mae e-bost neu alwad ffôn sydyn i’r lleoliad yn ffordd dda o wirio bod y digwyddiad yn un dilys ac os felly, pwy sy’n trefnu.”

Os ydych chi’n credu eich bod wedi cael eich twyllo, dylech roi gwybod i Action Fraud drwy eu gwefan  neu drwy ffonio 0300 123 2040.

Scam

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a  materion diogelu’r cyhoedd eraill

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Galw ar Fusnesau Wrecsam – Ydych chi’n gymwys i wneud cais i’r Gronfa Paratoi at y Dyfodol?

Rhannu
Erthygl flaenorol Paratowch i gael hwyl! Mae Diwrnod Chwarae 2024   Paratowch i gael hwyl! Mae Diwrnod Chwarae 2024  
Erthygl nesaf fêps Sicrhewch eich bod yn gwaredu eich fêps yn gyfrifol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English