Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sioeau Cerddoriaeth yr Hydref yn dod i ben gyda pherfformiad Nadolig Arbennig Iawn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Landlords
Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Arall
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Sioeau Cerddoriaeth yr Hydref yn dod i ben gyda pherfformiad Nadolig Arbennig Iawn
ArallY cyngor

Sioeau Cerddoriaeth yr Hydref yn dod i ben gyda pherfformiad Nadolig Arbennig Iawn

Diweddarwyd diwethaf: 2019/11/25 at 2:19 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Sioeau Cerddoriaeth yr Hydref yn dod i ben gyda pherfformiad Nadolig Arbennig Iawn
RHANNU

Mae yna ddigonedd yn aros y rhai sy’n hoff o gerddoriaeth wrth i Sioeau Cerddoriaeth tymor yr Hydref 2019 ddod i ben yn Tŷ Pawb.

Dydd Iau, Tachwedd 28 bydd myfyrwyr o Goleg Brenhinol Iau y Gogledd yn ymddangos am y tro cyntaf yn y lleoliad poblogaidd ac mae’n nodi dechrau tuedd gynyddol i ddatblygu’r cysylltiadau gydag ysgolion a sefydliadau addysgol wrth i ni nesáu at 2020. Yn ymddangos yn y cyngerdd byd tri myfyriwr sef Jacob Philp – piano, Alexandra Clarke – ffliwt a Gwydion Rhys – y soddgrwth.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Mae Jacob Philp yn 15 oed ac yn byw yn Wrecsam ac mae’n bianydd ifanc dawnus iawn. Mae Gwydion o Ogledd Cymru a pherfformiodd yn ddiweddar yng nghyngerdd Cerddor Ifanc y Flwyddyn Clwb Cerddoriaeth y Rhyl. Mae Alexandra yn ffliwtydd ifanc eithriadol o dalentog. Byddant yn perfformio rhaglen fywiog, amrywiol a cyffrous o gerddoriaeth glasurol a chyfoes.

Dydd Iau, Rhagfyr 5, bydd disgyblion o Moreton Hall yn Sir Amwythig hefyd yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf yn y lleoliad.

Bydd Chris Sims, pianydd a chanwr dawnus a chyfansoddwr nifer o genres cerddorol o’r Clasurol, Jazz, Boogie Woogie a phop i’r hen glasuron tafarn y gellir cydganu gyda nhw, yn cyflwyno datganiad piano dydd Iau, Rhagfyr 12.

Yn dirwyn y tymor i ben ddydd Iau, Rhagfyr 19 bydd yr uwch denor Cymreig Kieron-Connor Valentine, enillydd Gwobr Bath Opera Isobel Buchanan 2019. Fe raddiodd yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd, Manceinion ac astudiodd gyda David Lowe. Y tymor hwn mae’n parhau gydag ail flwyddyn ei gwrs Meistr Cerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, gan astudio gydag Adrian Thompson.

Y tymor hwn mae hefyd yn ymuno ag Opera Teithiol Glyndebourne i chwarae rhan Mago Cristiano yn Rinaldo Handel ar gyfer eu taith hydref. Yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd fe berfformiodd L’humana fragilita yn Il ritorno d’Ulisse in patri Monteverdi, dan arweinyddiaeth Roger Hamilton, Oberon yn A Midsummer Night’s Dream Britten, dan arweinyddiaeth Andrew Greenwood a Didymus yn Theodora Handel, dan arweinyddiaeth Roger Hamilton.

Roedd 2018 yn flwyddyn lwyddiannus iawn i Kieron o ran cystadlaethau, gan iddo ennill Canwr Ifanc Cymreig y Flwyddyn MOCSA, Gwobr Goffa Douglas Rees Canwr Opera Ifanc y Flwyddyn yng Ngŵyl Gerdd Aberdaugleddau a Chanwr Ifanc Cymreig Dunraven. Ymhlith y gwobrau eraill mae Canwr y Flwyddyn Southport, Canwr y Flwyddyn Lerpwl, Canwr Ifanc y Flwyddyn Y Stiwt a Gwobr Canwr Mwyaf Addawol y Flwyddyn Lerpwl.

Bydd Kieron yn perfformio sioe ‘Nadolig Arbennig Iawn’ ac yn cyfeilio bydd Tim Stuart. Bydd cyfle i’r gynulleidfa fwynhau gwin cynnes a mins peis ar ôl y cyngerdd.

Mae’r holl Sioeau Cerddoriaeth i gyd yn rhad ac am ddim ac yn dechrau am 1pm.

Dywedodd Derek Jones, trefnydd y Sioeau Cerddoriaeth a Chadeirydd y Bwrdd Cynghori: “Rydym wrth ein bodd fod Coleg Cerdd Brenhinol Iau y Gogledd (JRNCM) yn dod â rhai o’u cerddorion ifanc mwyaf dawnus i berfformio ar ein cyfer yn ein cyngherddau Sioe Cerddoriaeth Fyw yn Tŷ Pawb. Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd yw un o’r colegau cerdd mwyaf blaenllaw yn y DU a thros y blynyddoedd mae wedi croesawu nifer fawr o gerddorion talentog Wrecsam i ddatblygu eu dawn gerddorol drwy eu rhaglenni, cyn iddynt ymuno â rhai o gerddorfeydd ac ensembles mwyaf blaenllaw Prydain.

“Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ddechrau perthynas gynhyrchiol rhwng Tŷ Pawb a’r JRNCM gan gynnig llawer o anogaeth i gerddorion ifanc Wrecsam i barhau gyda’u hastudiaethau cerddorol. Rydym yn falch fod nifer o ysgolion lleol a cholegau yn mynegi diddordeb yn y Sioe Cerddoriaeth Fyw a bydd nifer ohonynt yn perfformio yn ein cyngherddau yn ystod 2020.

“Rydym hefyd wrth ein bodd o groesawu disgyblion o Ysgol Moreton Hall ar Ragfyr 5 a fydd yn perfformio cyngerdd a fydd yn cynnwys darnau corawl ac offerynnol.

Caiff y Sioe Cerddoriaeth Fyw yn Tŷ Pawb ei chefnogi gan Gerddorfa Symffoni Wrecsam, Calon FM, Y Lle Cerdd, Marchnadoedd Tŷ Pawb, yr Ardal Fwyd a Siopau.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Plumber Plumbing Job Vacancy Copper ‘Da chi’n blymwr cymwys sy’n chwilio am gyfle cyffrous? Yna efallai mai hon ydi’r swydd i chi…
Erthygl nesaf Ar agor bob awr Ar agor bob awr

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Landlords
Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Arall Awst 12, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 12, 2025
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Landlords
Arall

Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam

Awst 12, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 12, 2025
Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English