Dewch draw i Siop Dros Dro Ailddefnyddio cyntaf yn Wrecsam ddydd Llun 11 Medi rhwng 9am a 2pm pan fydd Chyngor Wrecsam a FCC Environment, yn llenwi stondin ym Marchnad Canol y Ddinas Wrecsam yn Sgwâr y Frenhines gyda channoedd o gynnyrch ail-law!
Fe fydd yna ddetholiad mawr o eitemau ail-law o ansawdd ar gael megis nwyddau cartref, teganau, DVDs, gemau a nwyddau trydanol. Mae’r holl eitemau sydd ar werth wedi cael eu rhoi i’w hailddefnyddio yn un o dri chanolfan ailgylchu Wrecsam.
Dywedodd Chloe Knowler o FCC Environment, “Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath i FCC Environment, Tŷ’r Eos, Cyngor Wrecsam ac rydym ni’n falch o allu cefnogi mentrau cynaliadwy yn y gymuned. Ers y 7 mlynedd diwethaf, mae Hosbis Tŷ’r Eos gan weithio gyda staff FCC, wedi rhedeg Siop Ailddefnyddio yng Nghanolfan Ailgylchu Lôn y Bryn, ac mae wedi bod yn llwyddiant mawr. Mae’r elusen yn gweithio’n galed i redeg y Siop Ailddefnyddio a darparu cynnyrch o ansawdd uchel i’w cwsmeriaid am chwarter y pris o brynu eitemau newydd.”
Dywedodd Katie Roberts yn Hosbis Tŷ’r Eos, “Gobeithio y bydd y digwyddiad yma’n codi ymwybyddiaeth am wasanaethau gwych Hosbis Tŷ’r Eos tra’n cynnig cynnyrch fforddiadwy i chi. Bydd y digwyddiad Dros Dro yn gyfle gwych i bawb ddysgu mwy amdanom ni a beth rydym ni’n ei wneud, a phwy a ŵyr, efallai y dewch chi o hyd i fargen rydych chi wedi bod yn chwilio amdano!”
Mae’r digwyddiad yma’n ffordd wych i bobl gefnogi gwaith gwych y mae Hosbis Tŷ’r Eos yn ei wneud bob dydd i’r gymuned leol, tra’n codi ymwybyddiaeth ac yn ailddefnyddio ac ailgylchu, helpu i leihau ein heffaith amgylcheddol a chymryd camau tuag at fod yn gymuned fwy cynaliadwy drwy gynyddu hyd oes cynnyrch.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch