Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Roedd gwên ar wynebau pawb wrth i’r Gweinidog Addysg agor dau gyfleuster addysgol newydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
off-gas
Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…
Pobl a lle
Adult Community Learners
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Roedd gwên ar wynebau pawb wrth i’r Gweinidog Addysg agor dau gyfleuster addysgol newydd
Busnes ac addysgY cyngor

Roedd gwên ar wynebau pawb wrth i’r Gweinidog Addysg agor dau gyfleuster addysgol newydd

Diweddarwyd diwethaf: 2020/02/27 at 4:41 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Education Minister
RHANNU

Agorwyd dau gyfleuster addysgol newydd yn swyddogol heddiw yn Wrecsam gan Kirsty Williams, AC, Y Gweinidog Addysg.

Yn gyntaf, agorwyd estyniad newydd gwerth £3.2 miliwn yn Ysgol Gynradd Gymunedol Gwersyllt, sydd nawr ag adeiladau babanod ac ieuenctid ar y safle. Yn fuan wedi’r agoriad cyntaf, agorwyd bloc chweched newydd gwerth £1.7 miliwn yn Ysgol Morgan Llwyd.

Ariennir y gwaith gan gronfa Ysgolion y 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a gyfatebwyd yn ariannol gan Gyngor Wrecsam.

COFRESTRWCH I DALU AM GASGLIADAU BIN

Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg yng Nghyngor Wrecsam: “Roedd yn fraint cael bod yn bresennol yn y ddau gyfleuster gwych heddiw i groesawu’r Gweinidog Addysg i Wrecsam. Rydym wedi ymrwymo i wella ein hysgolion ar draws y fwrdeistref sirol a darparu ein pobl ifanc ag amgylchedd addysg fodern er mwyn cyflenwi cwricwlwm y 21ain Ganrif. Hoffwn ddiolch i bawb am eu holl waith caled ac i Lywodraeth Cymru am eu cyllid i’n galluogi i gwblhau’r ddau brosiect hwn.”

Dywedodd Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg: Roeddwn yn hynod o falch i agor dau gyfleuster newydd yn Wrecsam heddiw sydd yn dangos sut gall safleoedd dysgu arloesol ac ad-drefnu ysgolion gefnogi disgyblion a chyflenwi’r cwricwlwm newydd.

“Rydym wedi darparu cyllid sylweddol i ysgolion yn Wrecsam drwy ein Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif lle’r ydym wedi buddsoddi 1.4 biliwn ar draws Cymru gyfan dros y pum mlynedd diwethaf.

“Rwy’n falch o gael dweud bod ail gam o fuddsoddi wedi cychwyn fis Ebrill yn llynedd a fydd yn gweld £2.3 biliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi ar draws Cymru i wella adeiladau ein Hysgolion a’n Colegau.”

Meddai Pennaeth Ysgol Morgan Llwyd, Catrin Pritchard:

“Roedd yn bleser croesawu Ysgrifennydd y Cabinet i’n hadeilad 6ed dosbarth newydd heddiw.  Nid yn unig y mae’r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Lleol Wrecsam yn dynodi buddsoddiad yn ein cyfleuster newydd, ond hefyd yn nyfodol darpariaeth addysg Gymraeg ôl-16 yn Ysgol Morgan Llwyd.

Roedd hefyd yn fraint croesawu nifer o gyn Benaethiaid yn ôl i’r digwyddiad.    Mae ein disgyblion Chweched Dosbarth wedi ymgartrefu’n dda ac maen nhw’n nodi ei bod yn fraint iddyn nhw gael dysgu mewn amgylchedd mor ddiogel, dymunol a modern, sy’n caniatáu iddyn nhw weithio’n galed a chyflawni’r graddau sydd eu hangen arnyn nhw.

Roedd gwên ar wynebau pawb wrth i’r Gweinidog Addysg agor dau gyfleuster addysgol newydd
Roedd gwên ar wynebau pawb wrth i’r Gweinidog Addysg agor dau gyfleuster addysgol newydd
Roedd gwên ar wynebau pawb wrth i’r Gweinidog Addysg agor dau gyfleuster addysgol newydd
Education Minister
Education Gallery

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Gwersyllt, Joel Moore: “Mae wedi bod yn ddiwrnod llwyddiannus arall i’r ysgol yng nghanol blwyddyn llawn o ddiwrnodau gwych. Mae wedi bod yn braf dros ben i groesawu’r Gweinidog Addysg i’r ailwampio ac i estyniad yr ysgol, ochr yn ochr â’r rhai a gymerodd rhan enfawr yn y broses, y rhai sydd yn cymryd rhan enfawr yn yr ysgol ar hyn o bryd yw’r disgyblion, y rhai blaenorol a phresennol. Rydym yn falch iawn o’n hysgol newydd ac yn gyffrous iawn am ddyfodol Ysgol Gynradd Gymunedol Gwersyllt. Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a wnaeth ein helpu i’w gyflawni.”

Education Minister
Roedd gwên ar wynebau pawb wrth i’r Gweinidog Addysg agor dau gyfleuster addysgol newydd
Roedd gwên ar wynebau pawb wrth i’r Gweinidog Addysg agor dau gyfleuster addysgol newydd
Roedd gwên ar wynebau pawb wrth i’r Gweinidog Addysg agor dau gyfleuster addysgol newydd
Roedd gwên ar wynebau pawb wrth i’r Gweinidog Addysg agor dau gyfleuster addysgol newydd
Roedd gwên ar wynebau pawb wrth i’r Gweinidog Addysg agor dau gyfleuster addysgol newydd
Roedd gwên ar wynebau pawb wrth i’r Gweinidog Addysg agor dau gyfleuster addysgol newydd
Roedd gwên ar wynebau pawb wrth i’r Gweinidog Addysg agor dau gyfleuster addysgol newydd
Education Minister

Dechreuodd y gwaith – a gyflawnwyd gan gontractwyr Read Construction– ar ddiwedd 2018, a chawsom y cyfle i weld rhai o’r tirnodau yn y broses – gan gynnwys llofnodi trawst fetel a ddefnyddiwyd yn yr adeiledd newydd,

https://newyddion.wrecsam.gov.uk/seremoni-lofnodi-yn-nodi-dechraur-gwaith-adeiladu-mewn-ysgol-gynradd/

y capsiwl amser a gladdwyd sy’n cofnodi hanes yr ysgol

https://newyddion.wrecsam.gov.uk/ysgol-yn-claddu-capsiwl-amser-yn-ystod-gwaith-adeiladu/

and the works ongoing at Ysgol Morgan Llwyd

https://newyddion.wrecsam.gov.uk/fideo-tarwch-olwg-ar-y-cyfleusterau-1-7-miliwn-newydd-yn-ysgol-morgan-llwyd/

Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://beta.wrecsam.gov.uk/service/beth-syn-mynd-ir-bincynwysyddion-ailgylchu/gwasanaeth-casglu-gwastraff-gardd”] RYDW I EISIAU TALU RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham students experience cultural ‘trip of a lifetime’ to New York Ysgol Bryn Alyn Myfyrwyr Wrecsam yn profi taith ddiwylliannol unwaith mewn oes i Efrog Newydd
Erthygl nesaf surgery to waterloo O’r feddygfa i Waterloo

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

off-gas
Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…
Pobl a lle Ionawr 16, 2026
Adult Community Learners
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor Ionawr 15, 2026
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg Ionawr 15, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Adult Community Learners
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn

Ionawr 15, 2026
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg

Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio

Ionawr 15, 2026
financial hep
Busnes ac addysg

Nodyn Atgoffa: Gall POB plentyn yn yr ysgol gynradd gael prydau ysgol am ddim

Ionawr 14, 2026
Gyrfa newydd ar gyfer y Flwyddyn Newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gyrfa newydd ar gyfer y Flwyddyn Newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Ionawr 13, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English