Yn ddiweddar ymwelodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Brian Cameron, â Rachel Prince, perchennog Snip ’N’ Tuck sydd wedi ei leoli yn y Farchnad Gyffredinol er mwyn ei llongyfarch ar gyrraedd 20 mlynedd mewn busnes.
Cyn sefydlu’r busnes, astudiodd Rachel ym maes dehongli gwisgoedd theatr, a bu’n gweithio yn y West End ar sioeau teithiol yn ogystal â gweithio’n fwy lleol yn Theatr Clwyd. Bu Rachel yn gweithio ar yr opera sebon Brookside hefyd.
Ar ôl sefydlu Snip ’N’ Tuck, un o’r tasgau cyntaf wnaeth Rachel oedd atgyweirio leinin basged Moses. Mae cenedlaethau o’r un teulu wedi bod yn dychwelyd ati dro ar ôl tro wedi iddi wneud gymaint o argraff ar un aelod o’r teulu ei bod wedi datgan na fydd hi byth heb waith.
Yn 2003, yn nyddiau cynnar y busnes, enillodd Rachel y wobr Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn o ganlyniad i sefydlu’r busnes.
Rachel Prince o Snip ‘N’ Tuck gyda Maer Wrecsam cyng Brian CameronGall Rachel atgyweirio, addasu a chynhyrchu unrhyw beth, boed yn ffrogiau priodas neu ffrogiau prom i lifrai milwrol a lifrai heddlu, ond mae’n dweud mai’r unig beth na fydd yn ei wneud ydy gwnïo’r bathodyn ar iwnifform y Sgowtiaid!
Mae Rachel yn mwynhau rhoi gwisgoedd cymeriadau o ffilmiau a llyfrau ac ati at ei gilydd. Gellwch weld y gwisgoedd anhygoel hyn yn y delweddau isod.
Wrth ymweld, dywedodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Brian Cameron: “Mae’n bleser cael ymweld â Snip ’N’ Tuck i longyfarch Rachel ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar 20fed pen-blwydd y busnes. Mae Rachel wedi gwneud gwaith ardderchog ac wedi bod drwy gyfnodau anodd, ond mae’n wych cael ymweld a gweld y busnes yn ffynnu.”
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR