Mae’n mynd i fod yn ddiwrnod prysur yng nghanol y ddinas yfory wrth i ni baratoi ar gyfer yr Orymdaith Dydd Gŵyl Dewi flynyddol.
Eleni bydd adloniant gan artistiaid amrywiol y tu allan i Neuadd y Dref i groesawu’r torfeydd o hanner dydd ymlaen a bydd yr orymdaith yn ymgynnull am 12.45pm ac yn dechrau yn brydlon am 1.00pm dan arweiniad Band Cambria.
Bydd yr orymdaith yn mynd trwy ganol y dref gan orffen yn ôl yn Sgwâr y Frenhines, lle bydd pawb yn canu’r Anthem Genedlaethol a Chalon Lân gyda’i gilydd, dan arweiniad Andy Hickie.
Cofiwch eich baneri a’ch chwibanau!
Gorymdaith Llusernau Dydd Gŵyl Dewi
Diolch i arian gan y cais Dinas Diwylliant 2025, ynghyd â chefnogaeth gan y Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol 3 Sir Gysylltiedig, mae Groundwork Gogledd Cymru yn edrych ymlaen at gynnal Gorymdaith Llusernau ar 1 Mawrth 2023 yng Nghanol Dinas Wrecsam.
Bydd yr orymdaith llusernau yn dathlu diwylliant a threftadaeth Cymru, a dyna pam yr oedd y Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol 3 Sir Gysylltiedig eisiau cymryd rhan, gan eu bod yn dathlu 175 mlynedd o’r llinell Rheilffordd Caer/ Wrecsam/ Amwythig/ Crewe sydd wedi chwarae rhan hanfodol yn nhreftadaeth ddiwydiannol Wrecsam.
Bydd yn dechrau gydag adloniant stryd ar Sgwâr y Frenhines o 5.30pm gyda pherfformiad gan Choirs for Good Wrecsam. Bydd yr orymdaith yn dechrau o Sgwâr y Frenhines am 6pm, gan fynd ar hyd Stryt y Frenhines, gan droi i’r dde ar hyd Stryt y Rhaglaw, a throi i’r dde eto o dan Fwa Stryt Argyle, gan ddychwelyd i Sgwâr y Frenhines.
Os hoffech fynychu’r Orymdaith Llusernau, nid oes angen cadw lle ond gofynnir i chi gofrestru eich diddordeb trwy Eventbrite YMA
Canolfan Wybodaeth i Ymwelwyr Newydd
Tra’r ydych yn y ddinas pam na wnewch chi gymryd y cyfle i ymweld â’r Ganolfan Wybodaeth i Ymwelwyr newydd a chwrdd â rhai o’r gwneuthurwyr lleol sydd ar y safle’r diwrnod hwnnw, o rostwyr coffi artisan i wneuthurwyr cyffug, pobydd a llawer mwy!
Mae gan y Ganolfan newydd tair gwaith y gofod llawr a oedd gan yr hen Ganolfan Groeso ar Sgwâr y Frenhines, yn ogystal ag ethos sy’n canolbwyntio ar ddangos cynnyrch bwyd a diod lleol ac anrhegion o Gymru ynghyd â bod yn le i gael gwybod am ddigwyddiadau, atyniadau a phethau i’w gweld a’u gwneud ar draws y sir gyfan.
Maent hefyd yn cynnal cystadleuaeth ar gyfer y bachgen a’r ferch sydd â’r wisg Gymreig orau. Bydd pob un yn cael tynnu ei lun a bydd llun y cystadleuwyr a’r ddau enillydd yn cael eu rhoi ar dudalennau Facebook a Twitter y Ganolfan Wybodaeth i Ymwelwyr yn hwyrach yr wythnos honno.
Mae’r Ganolfan Wybodaeth i Ymwelwyr ar Stryt Caer wrth fynedfa Tŷ Pawb, galwch heibio i ddweud helo.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD