Fe wnaeth Swyddogion Safonau Masnach o’n hadran Gwarchod y Cyhoedd, ar y cyd â Swyddogion Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru, ddarparu sticeri atal troseddu yn ardal Erddig.
Cawsant eu darparu fel rhan o waith atal masnachwyr twyllodrus/troseddol rydym yn ei gyflawni ar hyn o bryd. Fe wnaeth swyddogion hefyd siarad â nifer o drigolion gan gynnig cyngor diogelu, a siarad â phobl masnach oedd yn gweithio yn yr ardal i’w hysbysu o’u rhwymedigaethau cyfreithiol o dan gyfraith diogelu’r cwsmer.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Yn y misoedd diwethaf, mae’r Heddlu a Safonau Masnach wedi bod yn ymwybodol o gynnydd mewn gweithgarwch ar ystadau Coed y Glyn ac Ithens. Mae cartrefi wedi derbyn galwadau diwahoddiad gan bobl masnach diegwyddor sy’n chwilio i gyflawni gwaith ar doeau, dreif a gerddi.
Mae trigolion lleol wedi cael eu hanfon i’r banc er mwyn tynnu symiau mawr o arian, gan fod y masnachwyr hyn yn tueddu i ofyn am daliadau arian parod ac nid oes manylion busnes llawr ar gael. Yna, nid oes gan aelwydydd brawf os oes unrhyw beth yn mynd o’i le, sydd fel arfer yn digwydd.
Mae pob cartref wedi derbyn sticer DIM GALWADAU DIWAHODDIAD i roi ar y drws, ac anogwn holl gartrefi i’w defnyddio. Mae’n drosedd i anwybyddu’r cais i adael.
Yn y frwydr yn erbyn masnachwyr twyllodrus/troseddol, y ffordd orau i unrhyw un ddiogelu eu hunain, yw peidio ag ymgysylltu wrth y drws, peidio â derbyn gwaith gan fusnesau sy’n cnocio ar ddrysau neu sy’n gyrru heibio, ac i daflu holl bamffledi busnes a dderbynnir i’r bin.
Mae gan Wrecsam gyfoeth o fusnesau lleol sydd ag enw da. Defnyddiwch fusnesau lleol, a gofynnwch am argymhellion, a sicrhewch fod gennych fanylion llawn yr unigolyn rydych yn delio â nhw. Peidiwch â thalu gydag arian parod ymlaen llaw. Peidiwch â chael eich perswadio i fynd i’r banc na thwll yn y wal. Ni fydd masnachwyr gydag enw da yn gofyn i chi wneud hyn.
Derbyniom ganmoliaeth gan y trigolion ar ôl ymweld â’r ardal. Roedd y rhai cawsom sgwrs â nhw yn ddiolchgar fod swyddogion safonau masnach a’r Heddlu yn cefnogi’r fenter i ddiogelu pobl yn eu cartrefi.
Os ydych chi’n poeni eich bod wedi cael eich twyllo gan Fasnachwr Twyllodrus/Troseddol, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 i gael cyngor neu i adrodd am ddigwyddiad.
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Unwaith eto, rydym yn ymateb i weithredoedd galwyr digroeso diegwyddor, ac anogwn i unrhyw un sy’n dod i gyswllt â nhw i ddweud na. Hefyd, peidiwch â chymryd sylw o bamffledi, os ydych angen cyflawni gwaith yn y tŷ, gwnewch eich ymchwil, gofynnwch i deulu a ffrindiau am argymhellion a sicrhewch eich bod yn cael nifer o ddyfynbrisiau.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH