Ydych chi wedi gweld y sticeri ailgylchu newydd sydd i’w gweld ar rai biniau gwastraff cartrefi yn Wrecsam? Efallai bod gennych chi un ar eich bin chi!
Os felly, peidiwch â phoeni 🙂
Yn rhan o ymgyrch ailgylchu barhaus y Cyngor, mae’r sticeri coch a du amlwg yn cael eu defnyddio i atgoffa pobl i ailgylchu cymaint â phosib’ cyn llenwi eu biniau glas a du.
GALLWCH DDERBYN AWGRYMIADAU A GWYBODAETH I’CH HELPU CHI DDOD YN ARWR AILGYLCHU
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Fe fyddwn ni’n dal i wagio biniau duon os byddwn ni’n gweld bod pethau ailgylchadwy ynddyn nhw, ond rydyn ni eisiau gwneud pob dim y gallwn ni i annog pobl i ailgylchu os oes modd…ac mae’r sticeri yma’n rhan o’r ymdrech.”
Lle i bopeth a phopeth yn ei le…
Gallwch ailgylchu pob math o bethau yn Wrecsam, a thrwy daro golwg fanylach ar ddeunydd pecynnu, bwyd a phethau eraill rydych chi wedi gorffen â nhw, efallai y gwelwch chi eich bod yn gallu arbed lle yn eich bin glas neu ddu.
Ac mae ailgylchu mwy yn well i’n planed (ac a dweud y gwir, mae’r ddaear angen yr holl help mae’n gallu ei gael).
Felly, mae hi’n bwysig iawn gwneud pethau’n iawn, a rhoi’r pethau cywir yn y biniau, y bocsys a’r bagiau cywir.
Dyma nodyn i’ch atgoffa beth sy’n mynd i ble…
Bag glas i’w ailddefnyddio, neu gynhwysydd uchaf y bocsys ar olwynion
Pob math o bapur a chardbord gan gynnwys papurau newydd, cylchgronau, rholiau papur tŷ bach, bocsys wyau ac amlenni.
Bocs gwyrdd, neu gynhwysydd canol y bocsys ar olwynion
Pob math o ganiau diod, tuniau bwyd, ffoil glân, tuniau erosol gwag (heb gynnwys chwistrelli dad-rewi) plastig cymysg yn cynnwys potiau plastig, tybiau a photeli.
Bocs du, neu gynhwysydd isaf y bocsys ar olwynion
Pob math o boteli, potiau a chynwysyddion gwydr.
Wrth ailgylchu potiau gwydr a chynwysyddion bwyd eraill, ceisiwch sicrhau nad oes unrhyw fwyd dros ben ynddynt, gan fod posib’ ailgylchu hwn yn eich bwced bwyd.
Os gallwch chi, golchwch y cynwysyddion yn sydyn cyn eu rhoi yn y cynhwysydd ailgylchu cywir.
Bwced llwyd â chaead i’w roi ar ymyl y palmant
Pob math o fwyd, gan gynnwys bwyd dros ei ddyddiad a hyd yn oed bwyd rhew. Defnyddiwch y bagiau pydradwy sydd wedi’u darparu, nid bagiau plastig, gan nad ydi’r rheini’n pydru. Os oes angen mwy o fagiau compostadwy arnoch chi gwnewch linell o amgylch eich trin caddy ar y diwrnod casglu a bydd rhol arall yn cael ei adael i chi.
Gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth yma ar wefan Cyngor Wrecsam.
Angen mwy o focsys ailgylchu ac ati?
Mae eich ailgylchu chi’n bwysig iawn i ni, felly os oes arnoch angen cynwysyddion ailgylchu ychwanegol, mae’n hawdd iawn archebu mwy – am ddim.
Diolch i bawb yn y sir. Mae eich cefnogaeth barhaus i gynllun ailgylchu Wrecsam yn gwneud gwahaniaeth enfawr.
Dewch i ni helpu Wrecsam i fod y gorau trwy Gymru! 🙂
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU