Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sticio iddi…a helpu Wrecsam i wneud ei rhan drwy ailgylchu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Sticio iddi…a helpu Wrecsam i wneud ei rhan drwy ailgylchu
Pobl a lleY cyngor

Sticio iddi…a helpu Wrecsam i wneud ei rhan drwy ailgylchu

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 21, 2019 4:39 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Bin Recycling Stickers
RHANNU

Ydych chi wedi gweld y sticeri ailgylchu newydd sydd i’w gweld ar rai biniau gwastraff cartrefi yn Wrecsam? Efallai bod gennych chi un ar eich bin chi!

Cynnwys
  • Lle i bopeth a phopeth yn ei le…
  • Bag glas i’w ailddefnyddio, neu gynhwysydd uchaf y bocsys ar olwynion
  • Bocs gwyrdd, neu gynhwysydd canol y bocsys ar olwynion
  • Bocs du, neu gynhwysydd isaf y bocsys ar olwynion
  • Bwced llwyd â chaead i’w roi ar ymyl y palmant
  • Angen mwy o focsys ailgylchu ac ati?

Os felly, peidiwch â phoeni 🙂

Yn rhan o ymgyrch ailgylchu barhaus y Cyngor, mae’r sticeri coch a du amlwg yn cael eu defnyddio i atgoffa pobl i ailgylchu cymaint â phosib’ cyn llenwi eu biniau glas a du.

GALLWCH DDERBYN AWGRYMIADAU A GWYBODAETH I’CH HELPU CHI DDOD YN ARWR AILGYLCHU

Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Fe fyddwn ni’n dal i wagio biniau duon os byddwn ni’n gweld bod pethau ailgylchadwy ynddyn nhw, ond rydyn ni eisiau gwneud pob dim y gallwn ni i annog pobl i ailgylchu os oes modd…ac mae’r sticeri yma’n rhan o’r ymdrech.”

Sticio iddi…a helpu Wrecsam i wneud ei rhan drwy ailgylchu
Sticio iddi…a helpu Wrecsam i wneud ei rhan drwy ailgylchu

Lle i bopeth a phopeth yn ei le…

Gallwch ailgylchu pob math o bethau yn Wrecsam, a thrwy daro golwg fanylach ar ddeunydd pecynnu, bwyd a phethau eraill rydych chi wedi gorffen â nhw, efallai y gwelwch chi eich bod yn gallu arbed lle yn eich bin glas neu ddu.

Ac mae ailgylchu mwy yn well i’n planed (ac a dweud y gwir, mae’r ddaear angen yr holl help mae’n gallu ei gael).

Felly, mae hi’n bwysig iawn gwneud pethau’n iawn, a rhoi’r pethau cywir yn y biniau, y bocsys a’r bagiau cywir.

Dyma nodyn i’ch atgoffa beth sy’n mynd i ble…

Bag glas i’w ailddefnyddio, neu gynhwysydd uchaf y bocsys ar olwynion

Pob math o bapur a chardbord gan gynnwys papurau newydd, cylchgronau, rholiau papur tŷ bach, bocsys wyau ac amlenni.

Bocs gwyrdd, neu gynhwysydd canol y bocsys ar olwynion

Pob math o ganiau diod, tuniau bwyd, ffoil glân, tuniau erosol gwag (heb gynnwys chwistrelli dad-rewi) plastig cymysg yn cynnwys potiau plastig, tybiau a photeli.

Bocs du, neu gynhwysydd isaf y bocsys ar olwynion

Pob math o boteli, potiau a chynwysyddion gwydr.

Wrth ailgylchu potiau gwydr a chynwysyddion bwyd eraill, ceisiwch sicrhau nad oes unrhyw fwyd dros ben ynddynt, gan fod posib’ ailgylchu hwn yn eich bwced bwyd.

Os gallwch chi, golchwch y cynwysyddion yn sydyn cyn eu rhoi yn y cynhwysydd ailgylchu cywir.

Bwced llwyd â chaead i’w roi ar ymyl y palmant

Pob math o fwyd, gan gynnwys bwyd dros ei ddyddiad a hyd yn oed bwyd rhew. Defnyddiwch y bagiau pydradwy sydd wedi’u darparu, nid bagiau plastig, gan nad ydi’r rheini’n pydru. Os oes angen mwy o fagiau compostadwy arnoch chi gwnewch linell o amgylch eich trin caddy ar y diwrnod casglu a bydd rhol arall yn cael ei adael i chi.

Gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth yma ar wefan Cyngor Wrecsam.

Angen mwy o focsys ailgylchu ac ati?

Mae eich ailgylchu chi’n bwysig iawn i ni, felly os oes arnoch angen cynwysyddion ailgylchu ychwanegol, mae’n hawdd iawn archebu mwy – am ddim.

Diolch i bawb yn y sir. Mae eich cefnogaeth barhaus i gynllun ailgylchu Wrecsam yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

Dewch i ni helpu Wrecsam i fod y gorau trwy Gymru! 🙂

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_24″] COFRESTRU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Service to sport award Anrhydeddu sêr chwaraeon mewn Gwobrau Chwaraeon
Erthygl nesaf "Gwych oedd gweld cynifer o bobl" “Gwych oedd gweld cynifer o bobl”

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English