Mae cymuned Bortiwgaleg Wrecsam (CLPW) wedi lansio llyfryn newydd o straeon.
Mae’r llyfryn yn cynnwys straeon am eu bywydau nhw a’u hoffter o fyw yn Wrecsam. Mae hefyd yn hanesyddol fel y cyhoeddiad cyntaf yng Nghymru i gael ei argraffu mewn Portiwgaleg, Cymraeg a Saesneg.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Bydd y llyfryn ar gael am ddim o ysgolion, llyfrgelloedd ac adeiladau eraill y Cyngor.
Dywedodd Iolanda Banu Viegas o gwmni buddiannau cymunedol CLPW, “Mae CLPW a’r gwasgariad o Bortiwgeaid o Wrecsam yn falch iawn o allu rhannu ‘Ein Stori’ gyda holl gymunedau Wrecsam, Cymru a thu hwnt. Diolch i Gronfa Dreftadaeth Cymru, rydyn ni’n lansio’r llyfryn cyntaf yn Gymraeg, Portiwgaleg a Saesneg! Rydyn ni’n gobeithio y bydd y llyfr yn gadael ôl cadarnhaol mewn hanes.
“Diolch yn fawr i bob un fu’n rhan o greu’r llyfryn, a diolch arbennig i Bennaeth Treftadaeth, Dr Marian Gwyn a Chyngor Wrecsam am yr holl gymorth i wireddu breuddwyd arall.”
Cefnogwyd prosiect Ein Stori CLPW gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae’r llyfryn yn cynnwys straeon am eu bywydau nhw a’u hoffter o fyw yn Wrecsam. Mae hefyd yn hanesyddol fel y cyhoeddiad cyntaf yng Nghymru i gael ei argraffu mewn Portiwgaleg, Cymraeg a Saesneg.
Bydd y llyfryn ar gael am ddim o ysgolion, llyfrgelloedd ac adeiladau eraill y Cyngor.
Dywedodd Iolanda Banu Viegas o gwmni buddiannau cymunedol CLPW, “Mae CLPW a’r gwasgariad o Bortiwgeaid o Wrecsam yn falch iawn o allu rhannu ‘Ein Stori’ gyda holl gymunedau Wrecsam, Cymru a thu hwnt. Diolch i Gronfa Dreftadaeth Cymru, rydyn ni’n lansio’r llyfryn cyntaf yn Gymraeg, Portiwgaleg a Saesneg! Rydyn ni’n gobeithio y bydd y llyfr yn gadael ôl cadarnhaol mewn hanes.
“Diolch yn fawr i bob un fu’n rhan o greu’r llyfryn, a diolch arbennig i Bennaeth Treftadaeth, Dr Marian Gwyn a Chyngor Wrecsam am yr holl gymorth i wireddu breuddwyd arall.”
Cefnogwyd prosiect Ein Stori CLPW gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD