Fe fydd ysgolion Wrecsam yn symud i ddysgu ar-lein fory (dydd Gwener, 18 Chwefror) fel rhagofal yn erbyn Storm Eunice.
Fe fydd y storm yn effeithio ar lawer o’r DU – gan gynnwys Cymru – bore fory, gyda rhagolwg o wyntoedd cryfion.
Mae’r penderfyniad i symud i ddysgu ar-lein wedi’i wneud ar ôl cael cyngor gan Grŵp Cydlynu Strategol Gogledd Cymru, sy’n cynnwys cynghorau, gwasanaethau brys a sefydliadau eraill o bob cwr o’r rhanbarth.
Mae ysgolion yn brysur yn rhoi gwybod i rieni.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:
“Fel bob amser, diogelwch y cyhoedd yw ein blaenoriaeth bennaf yn ystod unrhyw dywydd garw, ac nid ydym am i blant a rhieni fod mewn perygl o wyntoedd cryfion a malurion wrth geisio cyrraedd a gadael yr ysgol.
“O ganlyniad, ac ar gyngor y Grŵp Cynghori Strategol, rydym yn symud i ddysgu ar-lein fory, fel bod modd i blant barhau i ddysgu yn niogelwch eu cartrefi.
“Dyma’r peth iawn i’w wneud, ac rwy’n cefnogi’r dull a gymerir yn llawn. Wrth wynebu rhagolygon tywydd difrifol fel Storm Eunice, mae’n rhaid i ni fod yn ofalus a gwneud popeth a allwn i helpu i gadw pobl yn ddiogel.”
Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg:
“Byddwn i’n gofyn i rieni weithio gyda ni a gobeithio bod pawb yn deall ein rhesymau dros y penderfyniad hwn.
“Mae ysgolion wedi hen arfer darparu dysgu ar-lein felly bydd plant yn gallu parhau â’u haddysg heb orfod wynebu perygl wrth fynd allan i’r tywydd gwael.
“Mae posibilrwydd y bydd colli trydan yn effeithio ar ddysgu gartref, ond gobeithio na fydd hyn yn digwydd.
“Hoffwn ddiolch yn fawr i’n hysgolion am ymateb mor gyflym a phroffesiynol i’r sefyllfa, ac er ein bod yn paratoi ar gyfer y gwaethaf, beth am i ni obeithio’r gorau a chroesi ein bysedd y gall Wrecsam osgoi’r gwaethaf o’r storm.”
Nodyn atgoffa – sut i roi gwybod am faterion
Er ein bod yn gobeithio y bydd Wrecsam yn osgoi’r tywydd gwaethaf, gallwch roi gwybod i’r cyngor am unrhyw faterion (e.e. difrod storm, coed wedi cwympo ac ati) trwy ffonio’r rhifau canlynol:
- Oriau swyddfa (8.30am-5pm) 01978 298989
- Y tu allan i oriau swyddfa 01978 292055
- Gwaith trwsio ar dai tenantiaid y Cyngor (24 awr) 01978 298993
Gallwch roi gwybod am unrhyw faterion o ran colli trydan trwy ffonio 105 (Mae Powercut 105 yn wasanaeth am ddim a fydd yn eich cysylltu â gweithredwr yn eich rhwydwaith lleol am gymorth a chefnogaeth).
Cofiwch, os oes perygl uniongyrchol i fywyd yn ystod unrhyw dywydd gwael, dylech ffonio 999 bob tro.
DARLLENWCH FWY…