Mae gwyntoedd cryfion Storm Franklin – y drydedd storm sylweddol i daro Prydain mewn llai nag wythnos – yn sicr i’w teimlo yn Wrecsam y bore ’ma.
Rydym ni’n deall y bydd y storm yn parhau drwy’r bore, gyda hyrddiadau o 50-55mya yng Ngogledd Cymru, cyn cilio.
Mae’r rhagolygon am weddill yr wythnos yn dweud y bydd hi’n wyntog bob dydd, ond yn llai cryf.
- Hyd yma, mae’r Cyngor wedi cael gwybod bod 16 choeden wedi disgyn yn y fwrdeistref sirol. Mae timau Adran yr Amgylchedd yno.
- Rydym ni hefyd yn gwybod bod y gwyntoedd wedi achosi difrod i adeiladau (e.e. eiddo ar Ffordd y Glowyr yn Llai a Stryt yr Abad yng nghanol tref Wrecsam).
- Mae rhywfaint o lifogydd lleol, gan gynnwys rhai ardaloedd ger Bangor-Is-y-Coed, lle mae’r A525/y Filltir Syth ar gau, ac ar Lôn Rhosmari yn yr Orsedd. Rydym yn cadw golwg ar Afon Dyfrdwy.
- Rydym yn deall nad oes rhagolygon am unrhyw law trwm heddiw, ond mae ar gyfer yfory.
- Rydym yn disgwyl i gasgliadau gwastraff oedd wedi’u trefnu at heddiw gael eu gwneud, felly os yw’n ddiwrnod gwagio biniau a chynwysyddion ailgylchu i chi, rhowch nhw allan fel yr arfer.
Dilynwch y Swyddfa Dywydd a Chyfoeth Naturiol Cymru ar Twitter.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Rydym ni’n monitro’r sefyllfa’n agos iawn ac mae ein timau ymateb yn barod ac yn helpu i ddelio â phroblemau yn y sir.
“Rydym ni’n cynghori pobl i fod yn ofalus, ac rydym ni eisiau atgoffa pobl yn benodol i osgoi cerdded mewn parciau a mannau agored lle mae coed mawr gerllaw.”
Neges i yrwyr
Rydym hefyd yn gofyn i yrwyr beidio ag anwybyddu arwyddion am ffyrdd ar gau.
Mae’n bwysig dilyn gwyriadau a pheidio â gyrru heibio i arwyddion ffyrdd ar gau, gan eu bod yno i gadw pobl yn ddiogel.
Nodyn atgoffa – sut i roi gwybod am faterion
Er ein bod yn gobeithio y bydd Wrecsam yn osgoi’r tywydd gwaethaf, gallwch roi gwybod i’r cyngor am unrhyw faterion (e.e. difrod storm, coed wedi cwympo ac ati) trwy ffonio’r rhifau canlynol:
- Oriau swyddfa (8.30am-5pm) 01978 298989
- Y tu allan i oriau swyddfa 01978 292055
- Gwaith trwsio ar dai tenantiaid y Cyngor (24 awr) 01978 298993
Gallwch roi gwybod am unrhyw faterion o ran colli trydan trwy ffonio 105 (Mae Powercut 105 yn wasanaeth am ddim a fydd yn eich cysylltu â gweithredwr yn eich rhwydwaith lleol am gymorth a chefnogaeth).
Cofiwch, os oes perygl uniongyrchol i fywyd yn ystod unrhyw dywydd gwael, dylech ffonio 999 bob tro.