Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Safonau Masnach yn bachu mwy o dybaco anghyfreithlon yn Wrecsam (Chwefror 2022)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Safonau Masnach yn bachu mwy o dybaco anghyfreithlon yn Wrecsam (Chwefror 2022)
Y cyngor

Safonau Masnach yn bachu mwy o dybaco anghyfreithlon yn Wrecsam (Chwefror 2022)

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 21, 2022 4:46 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Illegal Tobacco
RHANNU

Cymerwyd meddiant ar ddegau o filoedd o sigarennau ddydd Llun 14 Chwefror wedi nifer o ymweliadau dirybudd â busnesau yn y dref.

Cynhaliwyd ymweliadau tebyg ym mis Medi’r llynedd ac mae’r holl waith yn rhan o Ymgyrch Cece a gynhelir gydag arian gan Gyllid a Thollau.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Yn cynorthwyo Swyddogion Safonau Masnach o Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor oedd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yn ogystal â chŵn a hyfforddwyd yn benodol i ddod o hyd i dybaco. Daethpwyd o hyd i dybaco anghyfreithlon mewn amryw fannau, gan gynnwys mewn bŵt car wedi parcio gerllaw ac mewn uned storio.

Meddai Swyddog Arweiniol Safonau Masnach a Thrwyddedu’r Cyngor, Roger Mapleson, “Mae ysmygu’n lladd tua pum mil a hanner o bobl yng Nghymru bob blwyddyn. Dyma beth ydi’r achos mwyaf o bobl yn marw cyn pryd yn y wlad yma; mae’n creu gofid aruthrol i bobl ac yn rhoi pwysau mawr ar y gwasanaeth iechyd.

“Fe fyddwn ni bob tro’n erlyn pobl sy’n delio mewn tybaco anghyfreithlon”

“Mae tybaco anghyfreithlon fel arfer tua hanner pris y cynnyrch swyddogol, ac mae’n cael ei werthu yn ein cymunedau lleol. Mae’n rhad ac yn hawdd cael gafael arno, ac felly mae’n haws i blant ddechrau ysmygu a dod yn gaeth iddo a hefyd yn ei gwneud yn anoddach i bobl roi’r gorau iddi.

“Rydyn ni’n dal i ymchwilio i’r cynnyrch y daethon ni o hyd iddo, a byddwn yn erlyn pwy bynnag sy’n gyfrifol am ddelio mewn tybaco anghyfreithlon.”

Yn ddiweddar fe lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch fawr i godi ymwybyddiaeth o beryglon tybaco anghyfreithlon. Darllenwch fwy am yr ymgyrch ar wefan Dim Esgus. Byth.

Gall pobl wneud gwahaniaeth go iawn yn y frwydr i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon drwy roi gwybod i’r awdurdodau, naill ai drwy wefan Dim Esgus. Byth neu drwy ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555111.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Storm Franklin Storm Franklin – y wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam
Erthygl nesaf Lego Brics Bychain: Dewch i weld y byd wedi’i adeiladu  brics LEGO®

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadau

Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English