Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Storm Franklin – y wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Storm Franklin – y wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam
ArallY cyngor

Storm Franklin – y wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 21, 2022 1:35 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Storm Franklin
RHANNU

Mae gwyntoedd cryfion Storm Franklin – y drydedd storm sylweddol i daro Prydain mewn llai nag wythnos – yn sicr i’w teimlo yn Wrecsam y bore ’ma.

Cynnwys
  • Neges i yrwyr
  • Nodyn atgoffa – sut i roi gwybod am faterion

Rydym ni’n deall y bydd y storm yn parhau drwy’r bore, gyda hyrddiadau o 50-55mya yng Ngogledd Cymru, cyn cilio.

Mae’r rhagolygon am weddill yr wythnos yn dweud y bydd hi’n wyntog bob dydd, ond yn llai cryf.

  • Hyd yma, mae’r Cyngor wedi cael gwybod bod 16 choeden wedi disgyn yn y fwrdeistref sirol. Mae timau Adran yr Amgylchedd yno.
  • Rydym ni hefyd yn gwybod bod y gwyntoedd wedi achosi difrod i adeiladau (e.e. eiddo ar Ffordd y Glowyr yn Llai a Stryt yr Abad yng nghanol tref Wrecsam).
  • Mae rhywfaint o lifogydd lleol, gan gynnwys rhai ardaloedd ger Bangor-Is-y-Coed, lle mae’r A525/y Filltir Syth ar gau, ac ar Lôn Rhosmari yn yr Orsedd. Rydym yn cadw golwg ar Afon Dyfrdwy.
  • Rydym yn deall nad oes rhagolygon am unrhyw law trwm heddiw, ond mae ar gyfer yfory.
  • Rydym yn disgwyl i gasgliadau gwastraff oedd wedi’u trefnu at heddiw gael eu gwneud, felly os yw’n ddiwrnod gwagio biniau a chynwysyddion ailgylchu i chi, rhowch nhw allan fel yr arfer.

Dilynwch y Swyddfa Dywydd a Chyfoeth Naturiol Cymru ar Twitter.

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Rydym ni’n monitro’r sefyllfa’n agos iawn ac mae ein timau ymateb yn barod ac yn helpu i ddelio â phroblemau yn y sir.

“Rydym ni’n cynghori pobl i fod yn ofalus, ac rydym ni eisiau atgoffa pobl yn benodol i osgoi cerdded mewn parciau a mannau agored lle mae coed mawr gerllaw.”

Neges i yrwyr

Rydym hefyd yn gofyn i yrwyr beidio ag anwybyddu arwyddion am ffyrdd ar gau.

Mae’n bwysig dilyn gwyriadau a pheidio â gyrru heibio i arwyddion ffyrdd ar gau, gan eu bod yno i gadw pobl yn ddiogel.

Nodyn atgoffa – sut i roi gwybod am faterion

Er ein bod yn gobeithio y bydd Wrecsam yn osgoi’r tywydd gwaethaf, gallwch roi gwybod i’r cyngor am unrhyw faterion (e.e. difrod storm, coed wedi cwympo ac ati) trwy ffonio’r rhifau canlynol:

  • Oriau swyddfa (8.30am-5pm) 01978 298989
  • Y tu allan i oriau swyddfa 01978 292055
  • Gwaith trwsio ar dai tenantiaid y Cyngor (24 awr) 01978 298993

Gallwch roi gwybod am unrhyw faterion o ran colli trydan trwy ffonio 105 (Mae Powercut 105 yn wasanaeth am ddim a fydd yn eich cysylltu â gweithredwr yn eich rhwydwaith lleol am gymorth a chefnogaeth).

Cofiwch, os oes perygl uniongyrchol i fywyd yn ystod unrhyw dywydd gwael, dylech ffonio 999 bob tro.

Rhannu
Erthygl flaenorol Cyflwynwyd Achos Busnes i atgyweirio’r B5605 Ffordd Newbridge
Erthygl nesaf Illegal Tobacco Safonau Masnach yn bachu mwy o dybaco anghyfreithlon yn Wrecsam (Chwefror 2022)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English