Yn ystod y cyfnod presennol o weithredu diwydiannol (o ddydd Llun 4 Medi tan ddydd Sul 17 Medi), ni allwn fod yn sicr ynglŷn â’n hadnoddau tan ddechrau pob diwrnod. Felly mae’n rhaid i ni wneud penderfyniadau dyddiol ynglŷn â gwasanaethau ac rydym yn gwneud ein gorau gyda’r hyn sydd ar gael i ni.
Fodd bynnag, gan ein bod nawr yn ein hail wythnos o ‘streicio’ fe hoffem roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Fe fyddwn yn parhau i flaenoriaethu casglu eich gwastraff gweddilliol (h.y. eich bin du neu las), ac felly gosodwch eich gwastraff allan i’w gasglu ar eich diwrnod casglu arferol. Fodd bynnag, os nad yw’r casgliadau wedi eu casglu erbyn 3.30pm ewch â’r gwastraff yn ôl i’ch eiddo i’w gadw tan eich dyddiad casglu nesaf. Peidiwch â rhoi gwybod i ni am gasgliad a fethwyd gan na allwn ddychwelyd i gasglu unrhyw gasgliadau a fethwyd.
Yn anffodus ni fyddwn mewn sefyllfa i gasglu eich ailgylchu’r wythnos hon, felly rydym yn gofyn i chi barhau i gasglu hwn ar wahân i’w gyflwyno wrth ymyl y palmant pan fyddwn yn ôl yn gweithredu fel arfer.
Bydd Gwastraff Clinigol yn cael ei gasglu’r wythnos hon, fodd bynnag os oes yna oedi gadewch hwn yn y pwynt casglu arferol gan y bydd casgliadau yn digwydd.
Mae’r tair Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor fel arfer ac nid ydynt yn cael eu heffeithio gan y streic. Gellir derbyn gwastraff cyffredinol (na ellir ei ailgylchu) ac ystod eang o wastraff i’w ailgylchu gan gynnwys gwastraff gardd, bwyd, caniau, plastig a gwastraff swmpus. Cofiwch ddangos prawf o’ch cyfeiriad yn Wrecsam.
Yn anffodus gan ein bod yn parhau i fod ag adnoddau cyfyngedig i gynnal gwasanaethau, ni fydd y casgliadau Gwastraff Gardd a Gwastraff Masnachol yn cael eu casglu.
Mae casgliadau gwastraff swmpus hefyd wedi eu heffeithio ac ni ellir eu harchebu yn ystod cyfnod y streic.
Mae’n debygol y bydd gwasanaethau eraill yn cael eu heffeithio yn ystod yr wythnos, gan gynnwys gwagio biniau sbwriel ar y strydoedd.
Bydd y camau hyn yn ein helpu ni i gynnal y gwasanaeth casglu gwastraff craidd yn ystod cyfnod y streic.
Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a diolch i chi am eich amynedd.
Rhannwch y wybodaeth hon gyda’ch teulu, ffrindiau a’ch cymdogion.