Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Atafaelu gwerth £30,000 o e-sigaréts anghyfreithlon mewn siop yng nghanol y ddinas
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Atafaelu gwerth £30,000 o e-sigaréts anghyfreithlon mewn siop yng nghanol y ddinas
Y cyngorArall

Atafaelu gwerth £30,000 o e-sigaréts anghyfreithlon mewn siop yng nghanol y ddinas

Diweddarwyd diwethaf: Medi 14, 2023 12:06 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Vapes
RHANNU

Mae Safonau Masnach a Heddlu Gogledd Cymru wedi atafaelu swm aruthrol o e-sigaréts anghyfreithlon o siop yng nghanol dinas Wrecsam. Aeth swyddogion tîm Gwarchod y Cyhoedd, gyda chefnogaeth yr Heddlu, i mewn i’r siop nos Wener.

Dangosodd archwiliad o’r e-sigaréts yn y siop bod oddeutu 3,000 ohonyn nhw yn anghyfreithlon. Roedd yr e-sigaréts yn cael eu gwerthu am oddeutu £10 yr un, sy’n golygu bod cyfanswm gwerth stryd y nwyddau yn oddeutu £30,000

Mae cyfraith y DU yn cyfyngu ar faint a chynnwys nicotin e-sigaréts tafladwy. Roedd yr eitemau a atafaelwyd yn cynnwys dwywaith y cryfder nicotin a ganiateir a mwy na’r 2ml o hylif e-sigaréts a ganiateir.

Mae e-sigaréts yn gallu helpu ysmygwyr tybaco i roi’r gorau i’w dibyniaeth angheuol drwy ddefnyddio llai o gynnyrch niweidiol. Fodd bynnag, mae yna risg ynghlwm wrth ddefnyddio e-sigaréts ac felly ceir rheoliadau i wneud yr e-sigaréts mor ddiogel â phosibl drwy reoli eu cryfder a’u maint.

Os nad ydych chi’n ysmygu, peidiwch â defnyddio e-sigaréts

Mae yna bryder cynyddol ynghylch nifer y bobl nad ydyn nhw’n ysmygu sy’n arbrofi gydag e-sigaréts. Mae’r gost resymol, argaeledd y cynnyrch a’r hysbysebion deniadol yn ychwanegu at y broblem yma, ac mae pryder bod y dulliau marchnata a ddefnyddir gan weithgynhyrchwyr wedi’u dylunio i wneud y cynnyrch yn ddeniadol i blant.

Mae’n anghyfreithlon gwerthu e-sigaréts i unigolion dan 18 oed, pa un ai yw’r cynnyrch ei hun yn anghyfreithlon ai peidio. Ar gyfer plant ac oedolion, mae’r neges yn syml – os nad ydych chi’n ysmygu, peidiwch â defnyddio e-sigaréts.

Mae’r cynnydd yn eu poblogrwydd hefyd wedi arwain at broblem amgylcheddol, gydag oddeutu 5 miliwn o e-sigaréts tafladwy yn cael eu taflu bob wythnos yn y DU. Mae bob e-sigarét sy’n cael ei thaflu yn cynnwys batri lithiwm, plastig, elfennau trydanol a hylif gweddilliol. Er bod y gyfraith yn rhoi cyfrifoldeb cyfreithiol ar y cynhyrchwyr i’w hailgylchu, mae astudiaeth ddiweddar yn awgrymu mai dim ond 17% ohonyn nhw sy’n cael eu hailgylchu, a bod y gweddill yn cael eu taflu i’r bin. Gall hyn achosi problemau mewn canolfannau trin gwastraff, sydd wedi gweld sawl tân oherwydd y batris lithiwm sy’n cael eu taflu.

Mae’r ymchwiliadau i’r atafaeliad yma’n parhau.

Os oes gennych chi bryderon ynghylch e-sigaréts a all fod yn anghyfreithlon neu siopau a all fod yn eu gwerthu i blant, cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 (1133 ar gyfer Saesneg).

Rhannu
Erthygl flaenorol Tourism Data newydd yn datgelu effaith sylweddol twristiaeth ar Sir Wrecsam
Erthygl nesaf Gwybodaeth Streiciau Undeb Unite – Y wybodaeth ddiweddaraf am Reoli Gwastraff 14/09/2023

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English