Mae’n bosibl bod y rhai ohonom sy’n defnyddio’r orsaf fysiau yng nghanol y dref wedi sylwi ar gyflwr gwael Stryt y Drindod yn ddiweddar oedd angen ei hailwynebu
Mae’r ardal yn un o’r rhai prysuraf yn Wrecsam ac roedd ailwynebu’r ffordd bob amser yn mynd i fod yn anghyfleus i ddefnyddwyr bysiau a gyrwyr!
Ond roedd ein contractwyr, Roadway wedi gwneud popeth i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud ar ddydd Sul ar ôl trefnu i fysiau weithredu’r ochr arall i’r Orsaf Fysiau i allu cau’r ffordd sy’n arfer bod yn brysur.
Hysbyswyd yr Eglwys a busnesau cyfagos hefyd i sicrhau cyn lleied o amhariad â phosibl ar y diwrnod.
Roedd y contractwyr yn wynebu ras yn erbyn amser i sicrhau fod popeth wedi’i wneud mewn cyfnod byr o amser ac rydym yn falch o ddweud eu bod wedi llwyddo a rhwng 5.30am a 3.30pm roedd y ffordd wedi’i hailwynebu, cafodd y marciau ffordd eu disodli ac roedd y ffordd yn agored i draffig yn fuan fin nos.
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roedd y trefniadau gwaith ardderchog gyda Roadways yn golygu bod y gwaith wedi’i wneud gyda’r amhariad lleiaf ac mewn pryd ar gyfer digwyddiadau’r Nadolig fydd yn dod â llawer o ymwelwyr i Wrecsam. Hoffwn ddiolch iddynt am ansawdd y gwaith sydd wedi gwella golwg yr ardal hon yn fawr iawn, iawn.”
Gallwch weld y lluniau cyn ac ar ôl cwblhau’r gwaith:
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN