Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad diwethaf, mae Subbuteo yn ôl yn Tŷ Pawb ddydd Sadwrn, 15 Mehefin, rhwng 10am a 3pm.
Os ydych chi erioed wedi bod eisiau dysgu sut i chwarae’r gêm pen bwrdd glasurol hon neu ail-afael yn eich hen awch, rhaid i chi fynd i’r digwyddiad hwn. Y newyddion da yw ei fod i gyd yn rhad ac am ddim!
Bydd hefyd yn gyfle i ddangos i’ch rhai bach sut yr arferai pethau fod – dim angen wifi na thrydan
Mae croeso i bobl o bob oedran ac mae sesiynau hyfforddi a gemau yn erbyn chwaraewyr profiadol i gyd ar y bwrdd 🙂
Cynhelir y digwyddiad gan Glwb Subbuteo Heol Llundain a’i gyflwyno gan fasnachwr comics ac eitemau casgladwy Tŷ Pawb, BCCM Boarder Collectables, sy’n eiddo i Val ac Al Gilpin.
Mae BCCM Boarder Collectables yn drysorfa o gomics, ffigurau bach ac eitemau casgladwy, a gallan nhw hefyd greu eitemau wedi’u personoli.
Cynhelir Diwrnod Hwyl Subbuteo ddydd Sadwrn, 15 Mehefin, 10am-3pm
Mae mynediad yn RHAD AC AM DDIM i bawb!
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN