Gall gofalu am rywun gyda dementia fod yn anodd ar unrhyw adeg, ond yn ystod y cyfnod hwn o orfod cadw pellter a hunan-ynysu gall y sefyllfa eich rhoi dan hyd yn oed mwy o straen a gwneud i chi deimlo’n unig ac angen sicrwydd, cyngor a chymorth.
Os ydych chi’n teimlo fel hyn, darllenwch ymlaen – mae yna gymorth ar gael.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Cyswllt Dementia ar 0333 150 3456. Mae’r staff yn wybodus iawn ac yn barod i helpu, ac yn gallu darparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd arnoch chi eu hangen yn ystod y cyfnod hwn.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCIS) hefyd yn barod i helpu. Maen nhw’n gallu’ch helpu i dderbyn pecynnau hunan-ynysu sy’n cynnwys bwyd, gemau, llyfrau a DVDs ac ati.
Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth drwy ddilyn y ddolen hon: https://www.newcis.org.uk/about-us, neu ffonio 01978 423114.
Mae ein Grant Cynhwysiant Cymunedol a’n Cronfa Datblygu Cymunedol yn dal ar gael i gefnogi unigolion sy’n byw yn y gymuned a’u helpu i leihau’r teimlad o fod yn unig – cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw syniad ynghylch sut y gellir gwario’r arian. Ffoniwch 01978 292066 neu anfonwch neges i commissioning@wrexham.gov.uk.
I unrhyw un sy’ fethu cael mynediad i gymorth ar gyfer siopa, presgripsiynau neu gludiant e-bostiwch covid19@avow.org neu ffôn 01978 312556.
Mae gennym ni hefyd Asiantiaid Cymunedol ar hyd a lled Wrecsam sy’n helpu trigolion o fewn eu hardaloedd penodol. Cewch ragor o wybodaeth amdanyn nhw drwy ddilyn y ddolen hon: https://www.wrexham.gov.uk/welsh/council_w/social_services/community-agents.htm
Mae gan Asiantau Cymunedol rifau ffôn symudol os ydych yn dymuno cysylltu â hwy yn uniongyrchol, os nad yw’r Asiant ar gael gadewch neges a byddant yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Rhosddu: Ffôn: 07724 327551 ebost: rhosdducommunityagent@gmail.com
Parc Caia: Ffôn: 07946778557 ebost: caiaparkcommunityagent@gmail.com
Offa: Ffôn: 07803 244614 ebost: offacommunityagent@gmail.com
Coedpoeth: Ffôn: 07908 801471ebost: communityagent@coedpoeth.com
Glyn Ceiriog: Ffôn: 07908 373003 ebost: communityagent003@btinternet.com
Glyn-Traian: Ffôn: 07496 597894 ebost: CommunityAgentGT@glyntraian.org.uk
Rhiwabon / Penycae: Ffôn: 07751 778868 ebost: communityagentpr@yahoo.com
Gwersyllt: Ffôn: 07756 387021ebost: communityagentgwersyllt@gmail.com
Y Waun: Ffôn: 07821 297768 ebost: chirk.ca@gmail.com
Rhos: Ffôn: 07851798630 ebost: rhoscommunityagent@gmail.com
Gresford: Ffon: 07747431607 ebost: ruth.gresfordcccommunityagent@gmail.com
Yr Orsedd: Ffôn: 07421 138913 ebost : communityagent@rossettcommunitycouncil.cymru
Gwledig Llangollen: Ffôn : 07956 292546 ebost: trevorcommunityagent@gmail.com
Cefn Mawr: Ffôn: 07925 048711 ebost: cefncommunityagent@gmail.com
Clwstwr Deheuol: Am BOB lle yn y Clwstwr. Marchwiel, Owrtyn, Sesswick, Erbistock, Eyton, Bronington, Bettisfield, Llannerch Banna, Horseman’s Green, Bangor Isycoed, Hanmer, Maelor Deheuol
Cysylltwch â Geraldine Vaughan at Penley Rainbow Centre Ffôn: 01949 830242 ebost geraldinev@rainbowcentrepenley.org.uk
Cofiwch fanteisio ar yr hyn sydd ar gael i chi er mwyn eich helpu i gadw’n iach a saff.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19