Os ydych am gael gwybodaeth neu gyngor ar eich iechyd a’ch lles neu os ydych am wybod sut y gallwch helpu rhywun arall, yna Dewis ydi’r lle i chi.
Adnodd ar-lein am ddim yw Dewis sydd wedi’i ddylunio er mwyn sicrhau bod gwybodaeth am wasanaethau lleol ar gael i’r cyhoedd er mwyn hyrwyddo lles unigolyn.
Mae’n cynnwys cymorth a chefnogaeth ymarferol, yn cynnwys grwpiau cymunedol, gweithgareddau, digwyddiadau, gwasanaethau lleol a sefydliadau cenedlaethol. Gall aelodau o’r cyhoedd chwilio am destun sy’n berthnasol iddynt a dod o hyd i restr gynhwysfawr o wasanaethau lleol a chenedlaethol sydd yn bodloni eu hanghenion lles orau.
Gallwch ddefnyddio Dewis yn Gymraeg a Saesneg.
Mae’r tîm yng Ngwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam wedi bod yn gweithio’n galed i gynyddu’r nifer o wasanaethau yn Wrecsam sydd â gwybodaeth amdanynt ar Dewis, ac rydym ni’n meddwl y byddwch chi’n falch o’r nifer o wasanaethau newydd sydd bellach ar gael yno.
O’r hafan, teipiwch yr hyn rydych chi’n chwilio amdano, ynghyd â’ch cod post a chliciwch ar ‘Chwilio nawr’ i ddod o hyd i restr o wasanaethau lleol i’ch helpu chi.
Dyma rai argymhellion er mwyn chwilio ar Dewis:
- Meddyliwch am y geiriau chwilio rydych chi’n eu defnyddio. Er enghraifft, os na allwch chi ddod o hyd i wasanaethau ‘cyfeillio’ rhowch gynnig ar air arall, megis ‘cyfeillgarwch’ neu ‘cwmnïaeth’.
- Os dydych chi dal methu dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, yna ‘Mireiniwch eich chwiliad’ er mwyn canolbwyntio ar gategori, lleoliad neu bellter penodol o’ch cod post yr ydych wedi’i nodi.
- Er mwyn chwilio am gategori penodol ar Dewis, cliciwch ar ‘Chwiliwch yn fanylach’ o dan y botwm ‘Chwilio nawr’ ar yr hafan, ac yna fe allwch chi ddewis categori o’ch dewis chi.
Mae yna ystod eang o gategorïau i’w harchwilio, megis cyfleoedd dydd i oedolion, cysylltwyr cymunedol/ presgripsiynu cymdeithasol, gwasanaethau llyfrgell, digwyddiadau a llawer mwy.
Tarwch olwg ar yr enghraifft yma o ddolen categori byw ar gyfer gwasanaethau sydd yn darparu cefnogaeth iechyd meddwl yn Wrecsam.
Gan eu bod yn ddolenni byw, bydd y wybodaeth yn parhau i gael ei diweddaru wrth i’r wybodaeth newid ar Dewis.
Mae gan Dewis yn Wrecsam dudalen Facebook hefyd gydag argymhellion ychwanegol ynglŷn â sut i fanteisio ar y cyfeiriadur gwasanaeth ar-lein. Tarwch olwg arno drwy glirio ar y dolenni canlynol i gael mynediad at y tudalennau Cymraeg a Saesneg:
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am Dewis, gallwch e-bostio dewis@wrexham.gov.uk
Gwneud cais am gerdyn bws – yr hyn sydd angen i chi ei wybod – Newyddion Cyngor Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.