Dryslyd, ynysig, ar goll, ofnus, bregus, dyma rai o’r emosiynau a deimlir gan rywun sy’n byw gyda dementia.
Gwella safonau
Mae’r bws dementia rhoi’r cyfle i bobl ystyried byd pobl sy’n byw gyda dementia ac yna i newid yr amgylchedd a’u hymarfer er mwyn o bosib galluogi pobl gyda dementia i aros adref am hirach ac i wella gofal.
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’r bws dementia yn unigryw gan ei fod yn rhoi cyfle i chi gerdded yn esgidiau rhywun sy’n byw gyda dementia. Gallwch ddechrau deall y nifer o faterion gwahanol maent yn wynebu bob dydd. Byddwch yn profi teimladau o fod yn ddryslyd, ar goll, ofnus, bregus a llawer mwy, ac felly yn deall beth sydd angen newid i wella’r safonau gofal. Os oes gennych chi anwylyn sy’n byw gyda dementia, neu y byddech yn cael budd o wybodaeth well a mwy o ddealltwriaeth o fyw gyda dementia, cysylltwch â’r tîm ac archebwch le ar y bws.”
Bydd y Bws Taith Dementia Rhith yn y lleoliadau canlynol:
15 Ionawr – Canolfan Enfys Penley
16 Ionawr – Owrtyn
17 Ionawr – Plas Pentwyn – Coedpoeth
18 Ionawr – Morrison’s, Wrecsam
21 a 22 Ionawr – Ysbyty’r Waun
23 Ionawr – Canolfan Gymunedol – Glyn Ceiriog
11 Chwefror – Asda Wrecsam
13 ac 14 Chwefror – Adran yr Amgylchedd a Chynllunio, De Ffordd yr Abaty, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, Wrecsam.
15 Chwefror – Ystafell 11, Canolfan Fusnes Bryn Estyn, Lôn y Bryn, Wrecsam
18 ac 19 Chwefror – Coleg Cambria, Campws Iâl, Ffordd y Llwyni, Wrecsam
22 Chwefror – Canolfan Adnoddau Acton
25 Chwefror – Dôl yr Eryrod
26 Chwefror – Sgwâr y Frenhines, Wrecsam
27 Chwefror – Cartref Gofal Ashgrove, Ffordd Caer, Gresffordd Wrecsam
1 Mawrth – Canolfan Adnoddau Gwersyllt
Bydd archebion yn cael eu derbyn o 2 Ionawr 2019
I archebu lle ewch i workforcedevelopment@wrexham.gov.uk
Mae sesiynau yn para 2.5 awr ac mae amseroedd gwahanol ar gael ymhob lleoliad. Ffoniwch i gael rhagor o wybodaeth.
01978 292993 / 01978 292972
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD