Prif negeseuon
• Os bydd rhywun yn cysylltu â chi fel rhan o’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu, ni fyddant yn gofyn am unrhyw wybodaeth ariannol, manylion banc na chyfrineiriau. Mae profi yn rhad ac ddim.
• Os byddwch chi’n cael galwad ffôn gan rywun sy’n olrhain cysylltiad yn Wrecsam, a’ch bod yn poeni nad yw’r alwad yn ddilys, gallwch wirio drwy roi’r ffôn i lawr a’n ffonio ar 01978 292000.
Gobeithio eich bod wedi clywed am ‘olrhain cysylltiadau’ erbyn hyn…a sut mae’n cael ei ddefnyddio i helpu i fynd i’r afael â Covid-19 yng Nghymru.
Mae’n ddull sydd wedi’i brofi o reoli lledaeniad afiechydon heintus, ac mae’n golygu olrhain pobl sydd wedi dod i gysylltiad â pherson heintus, a rhoi cyngor iddynt ar beth i’w wneud (e.e. cael prawf, hunan-ynysu).
Felly os ydych chi wedi dod i gysylltiad ag unrhyw un sydd wedi cael cadarnhad fod ganddynt Covid-19, fe allech chi gael galwad ffôn gan rywun sy’n olrhain cysylltiadau.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae’r timau olrhain cysylltiadau yma yn Wrecsam wedi’u lleoli o fewn y Cyngor, a byddant yn cysylltu â phobl dros y ffôn dros y misoedd sydd i ddod.
Mae olrhain cysylltiadau yn ddull hirsefydlog o reoli ymlediad clefydau heintus.
Mae’n rhan bwysig o'n strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu
Dyma sut bydd hyn yn gweithio ????https://t.co/xvwbNSGnZH pic.twitter.com/tWMw1VL3wh
— Llywodraeth Cymru (@LlywodraethCym) June 2, 2020
Mae’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu yn hynod o bwysig, ac – os bydd pawb yn cydweithredu ac yn chwarae eu rhan – fe fydd yn helpu i ni ddod allan o’r pandemig.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
“Sicrhau fod unrhyw alwad yn ddilys”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl Cyngor Wrecsam: “Cafodd y rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru ar 1 Mehefin, ac fel Cyngor rydym ni’n chwarae ein rhan gyda’r elfen ‘olrhain’ yn Wrecsam.
“Mae’r timau olrhain yn cynnwys arweinwyr clinigol a busnes, unigolion sy’n olrhain ac ymgynghorwyr, ac os byddwch chi wedi dod i gysylltiad ag unrhyw sydd â Covid-19, fe allech chi gael galwad ffôn.
“Yn anffodus, mae yna siawns y bydd twyllwyr yn ceisio cymryd mantais ohonom, trwy esgus bod yn un o’r unigolion sy’n olrhain cysylltiadau.
“Felly – yn union fel pob galwad ffôn annisgwyl – mae’n bwysig bod yn ofalus, a bod yn hyderus fod yr alwad yn un dilys”.
Sut fyddwch chi’n gwybod mai ni sydd yn ffonio?
Yn y pendraw, dim ond un peth y mae troseddwyr sydd yn esgus bod yn rhywun sy’n olrhain cysylltiadau ei eisiau…mynediad i’ch gwybodaeth bersonol er mwyn iddynt eich twyllo.
Fe allwch amddiffyn eich hun trwy beidio â datgelu’r manylion canlynol (ac os byddant yn gofyn amdanynt, fe fyddwch chi’n gwybod mai twyll yw’r cyfan).
Ni fydd ein hunigolion sy’n olrhain cysylltiad FYTH:
• Yn gofyn i chi ddeialu rhif cyfradd premiwm.
• Yn gofyn i chi wneud unrhyw fath o daliad.
• Yn gofyn i chi am unrhyw fanylion banc.
• Yn gofyn i chi am unrhyw gyfrineiriau neu rif PIN, nac yn gofyn i chi greu unrhyw gyfrineiriau/PIN tra byddwch chi ar y ffôn.
• Yn gofyn i chi brynu cynnyrch.
• Yn gofyn i chi lawrlwytho unrhyw feddalwedd i’ch dyfais.
• Yn gofyn i chi roi rheolaeth o’ch cyfrifiadur, ffôn clyfar neu dabled i rywun arall.
• Yn gofyn i chi fynd ar unrhyw wefan nad yw’n cael ei redeg gan y GIG neu’r Llywodraeth.
Ni fydd unigolion dilys sydd yn olrhain cysylltiadau FYTH yn gofyn i chi wneud y pethau yma.
Dal ddim yn siŵr?
Os ydych chi dal yn sicr pa unai ydi’r alwad yn un dilys neu beidio, gallwch roi’r ffôn i lawr a ffonio rhif prif switsfwrdd Cyngor Wrecsam – 01978 292000.
Pan fyddwch chi’n ein ffonio, byddwn yn holi ychydig o gwestiynau byr i chi, yn cynnwys enw’r person sydd wedi ffonio.
Yna bydd eich gwybodaeth yn cael ei anfon i’r rheolwr busnes yn ein Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau a fydd yn eich ffonio nôl yr un diwrnod i wirio enw’r unigolyn sy’n olrhain eich cysylltiadau.
Beth yw’r tebygolrwydd y bydd rhywun yn cysylltu â chi?
Mae’n anodd dweud, ond gan fod olrhain cysylltiadau yn debygol o fod ar waith am y 18 mis nesaf, mae yna bosibilrwydd gwirioneddol y byddwn ni’n cysylltu â chi, neu bobl rydych chi’n ei adnabod.
Dim cost am brawf yng Nghymru
Hoffem eich atgoffa NAD OES COST i rhywun gael prawf am Covid-19 yng Nghymru.
Felly, os yw’r unigolyn rydych chi’n siarad â nhw yn gofyn i chi dalu ffi (rydym wedi cael adroddiadau o hyd at £500), byddwch yn ofalus, a pheidiwch â rhoi manylion banc i unrhyw un.
Mae hwn yn WASANAETH AM DDIM, felly os oes rhywun yn gofyn i chi dalu am brawf, byddwch yn gwybod mai sgam ydi o.
Bydd swyddog go iawn yn gofyn gyda phwy rydych chi wedi treulio amser a sut mae cysylltu â nhw, yn unig.
Byddwch yn wyliadwrus. Os ydych chi’n ansicr, peidiwch â rhoi gwybodaeth iddynt a rhowch wybod:
???? https://t.co/IfMuYhu9lx
✉️ report@phishing.gov.uk
???? text @Ofcom on 7726 pic.twitter.com/83eSXmoKOH— Llywodraeth Cymru (@LlywodraethCym) June 18, 2020
Rhywfaint o gyngor cyffredinol i osgoi twyll
Mae Safonau Masnach Wrecsam yn dweud na ddylech byth roi gwybodaeth bersonol – fel manylion banc – i alwr digroeso na thynnu arian allan os gofynnir i chi wneud hynny.
Os bydd rhywun yn dweud wrthych am wneud rhywbeth anghyffredin, rhowch y gorau iddi bob tro a meddyliwch am yr hyn y gofynnir i chi ei wneud.
Siaradwch gyda theulu neu ffrindiau cyn gwneud penderfyniad y gallech ei ddifaru.
Am gyngor ar sgamiau, cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 0808 223 1133.
Os ydych chi’n meddwl eich wedi dioddef sgam neu dwyll, gallwch ddweud wrth Action Fraud ar-lein neu ffoniwch 0300 123 2040.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19
Byddwch yn ymwybodol o Sgamiau a Golchwch eich dwylo o Sgamiau Coronafeirws