NODWCH – Mae’r ymgynghoriad hon wedi ei gau (01.12.17)
Sut fyddech chi’n arbed £13 miliwn?
Efallai y cewch gyfle i ddweud wrthym ni’n fuan.
Bydd cynlluniau i ofyn i bobl leol am eu barn ar sut i arbed arian yn cael eu trafod gan gynghorwyr yr wythnos nesaf.
Mae’n rhaid i Gyngor Wrecsam arbed yr arian dros y ddwy flynedd nesaf wrth iddo barhau i geisio ymdopi â llai o arian gan y llywodraeth ganolog.
Felly, mae ystod o syniadau’n cael eu hystyried a allai ein helpu i dorri costau a chreu incwm.
Os yw Bwrdd Gweithredol y Cyngor yn cytuno i gynnal ymgynghoriad ar y syniadau pan mae’n cyfarfod ddydd Mawrth, 24 Hydref, bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio i roi cyfle i bobl leol leisio barn.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Nid er ein mwyn ni, ond er eich mwyn chi
Os yw’r ymgynghoriad yn cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol, byddwn yn annog cymaint â phosib’ o bobl i lenwi’r holiadur ar-lein.
Gorau po fwyaf a fydd yn ymateb er mwyn i ni ddeall sut mae pobl yn teimlo.
Byddwn yn gofyn i chi ei lenwi er eich mwyn chi… i chi allu dylanwadu ar beth sy’n digwydd.
Fe fydd pobl eraill yn ei lenwi, felly gwnewch yn siŵr ein bod yn clywed eich llais chi hefyd!
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Ers 2008 rydyn ni wedi arbed £52 miliwn ac mae barn pobl leol wedi ein helpu i benderfynu sut y dylem arbed yr arian.
“Ond mae cynghorau ar hyd a lled y wlad yn dal mewn sefyllfa anodd iawn. Rydyn ni’n dal i orfod dod o hyd i ffyrdd o arbed a chodi arian er mwyn mantoli’r cyfrifon.
“Os ydi’r ymgynghoriad yn cael ei gymeradwyo’r wythnos nesaf, fe fyddwn i’n annog pawb i gymryd rhan.
“Peidiwch â gadael i bobl eraill yn unig gael dweud eu dweud. Gwnewch yn siŵr ein bod ni’n eich clywed chi hefyd.”
Bydd yr ymgynghoriad arfaethedig yn cael ei drafod gan Fwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ddydd Mawrth, 24 Hydref.
Mae’r cyfarfod yn cychwyn am 10am. Gallwch wylio’r cyfarfod ar-lein ar dudalen gweddarlledu’r Cyngor.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI