Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyllid wedi’i gadarnhau ar gyfer Treftadaeth Brymbo
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cyllid wedi’i gadarnhau ar gyfer Treftadaeth Brymbo
Busnes ac addysgPobl a lle

Cyllid wedi’i gadarnhau ar gyfer Treftadaeth Brymbo

Diweddarwyd diwethaf: 2017/10/19 at 10:59 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
Cyllid wedi’i gadarnhau ar gyfer Treftadaeth Brymbo
RHANNU

Newyddion da oedd clywed fod prosiect treftadaeth mawr wedi llwyddo i gael dros £800,000 gan gronfa genedlaethol.

Cafodd cais rownd gyntaf Ymddiriedolaeth Dreftadaeth Brymbo am gyllid i symud ei brosiect enfawr ymlaen, gan wneud defnydd o nodweddion hanesyddol anhygoel Brymbo i adfywio, ei gymeradwyo gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn gynharach y mis hwn.

Rydym wedi sôn am yr Ymddiriedolaeth Dreftadaeth yn y blog o’r blaen – gan gynnwys cefnogaeth a roddwyd iddo yn ddiweddar gan Gyngor Wrecsam trwy gyfrwng benthyciad o £170,000.

Nod yr Ymddiriedolaeth yw creu atyniad i ymwelwyr, canolfan addysg a lleoliad llawn bwrlwm o’r enw Ardal Dreftadaeth Brymbo trwy adfer adeiladau diwydiannol sy’n weddill a chloddio’r Goedwig Ffosiliau gerllaw ym Mrymbo.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Bu Bwrdd Ymddiriedolwyr Cronfa Dreftadaeth Y Loteri yn ystyried cais yr Ymddiriedolaeth y mis ddiwethaf gan ddewis ei gefnogi er gwaethaf cystadleuaeth frwd o bob cwr o’r DU.

Bydd y dyfarniad hwn yn galluogi’r Ymddiriedolaeth i ddod ag amrywiaeth lawn o weithwyr proffesiynol dylunio, peirianneg a chyfreithiol sydd eu hangen i roi cynigion costau llawn at ei gilydd, cyn yr ail gyfnod ymgeisio ar ddiwedd 2019.

Os bydd y cais hwnnw yn llwyddiannus bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn 2020 a bydd y cyfleusterau yn agor flwyddyn yn ddiweddarach.

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi’i sefydlu gan aelodau o Grŵp Treftadaeth Brymbo i symud y prosiect ymlaen, ac enillodd statws elusennol ym mis Awst eleni.  Mae’r Ymddiriedolaeth wedi ennill bron i £2m gan gangen arall o’r Loteri Genedlaethol – Y Loteri Fawr – i ddatblygu cyfres o dirweddau cyn-ddiwydiannol ym Mrymbo a’r cyffiniau, ac mae newydd gyflwyno cais am £1.1m i ddatblygu’r gwaith o ailwampio adeilad y Siop Peiriannau Gwaith Dur y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae hwn yn newyddion ardderchog a hoffwn longyfarch Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo am gyflawni hyn.

“Ni ellir gorbrisio pwysigrwydd asedau hanesyddol ac archeolegol Brymbo. Mae’r goedwig ffosiliau o bwys byd-eang, heb sôn am arwyddion amlwg treftadaeth ddiwydiannol yr ardal, gan gynnwys Gwaith Dur Brymbo.

“Mae’r cyfleoedd sy’n codi o adfywio trwy dreftadaeth yn addawol iawn, ac rwy’n gobeithio fod hyn yn nodi dechrau cyfnod llwyddiannus iawn a phrosiect boddhaol i ardal Brymbo.”

Meddai’r Cynghorydd Paul Rogers, aelod arweiniol ar gyfer Brymbo: “Mae hwn yn newyddion gwych – mae pawb yn y Prosiect Treftadaeth wedi rhoi oriau o waith caled dros y blynyddoedd diwethaf.

“Nid yw’n rhywbeth sydd wedi dechrau’n ddiweddar ac aeth llawer o waith i mewn i baratoi’r cais hwn i sicrhau ei lwyddiant – ac mae pawb yn y prosiect yn haeddu cael eu llongyfarch am eu hymdrechion.

“Rwy’n siŵr y bydd y prosiect hwn o fudd enfawr i Frymbo.”

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

COFRESTRWCH FI

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Council wants your views Sut fyddech chi’n arbed £13 miliwn?
Erthygl nesaf Beth sy’n dod â £330,000 i Wrecsam bob blwyddyn? Beth sy’n dod â £330,000 i Wrecsam bob blwyddyn?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

good to grow
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig

Gorffennaf 11, 2025
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English