Er mwyn hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn y Fwrdeistref Sirol rydym wedi cynhyrchu strategaeth Iaith Gymraeg ar gyfer y blynyddoedd nesaf.
Mae’r strategaeth yn cwmpasu blynyddoedd 2022 – 2027 ac mae’n seiliedig ar waith a’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu o strategaethau blaenorol, yn ogystal ag ymgorffori syniadau blaengar.
EIN GWELEDIGAETH
Ein gweledigaeth yw darparu amgylchedd ffafriol yn Wrecsam sy’n hyrwyddo defnyddio mwy ar y Gymraeg, cynyddu dealltwriaeth o’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig ymysg preswylwyr di-Gymraeg, a rhoi cyfle i breswylwyr fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno. O ganlyniad i’r cyfleoedd hyn, gobeithiwn weld cynnydd o 12.9% yn nifer y siaradwyr Cymraeg ledled y fwrdeistref sirol.
Mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod o fudd-ddeiliaid lleol i symud ymlaen â’i agenda iaith Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys bod yn aelod o Fforwm Iaith Fflint a Wrecsam a gweithio’n strategol gydag amrywiaeth o sefydliadau eraill a chyrff cyhoeddus megis Menter Iaith y Fflint a Wrecsam, Coleg Cambria, Urdd Gobaith Cymru ac Ymddiriedolaeth Bwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr i rannu enghreifftiau o arfer gorau, arbenigedd ac adnoddau.
Themâu strategol
Yn hytrach na nodau, mae’r strategaeth erbyn hyn yn amlinellu themâu clir ar gyfer cefnogi a chynyddu’r Gymraeg yn y Fwrdeistref Sirol. Y themâu hyn yw:
Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
- Cynllunio’r Gweithlu
- Addysg a hyfforddiant
Cynyddu defnydd o’r Gymraeg
- Defnydd o’r Gymraeg mewn lleoliadau cymdeithasol
- Cymraeg mewn busnes
- Gwasanaethau Digidol
Creu amodau ffafriol ar gyfer llwyddiant
- Cyfranogiad y Cyhoedd
- Hunaniaeth Wrecsam
- Digwyddiadau Cymraeg / Dwyieithog
Mae ymwybyddiaeth o’n hiaith a’n diwylliant wedi codi’n sylweddol yn ddiweddar yn dilyn llwyddiannau tîm pêl-droed Cymru ac wrth i berchnogion clwb pêl-droed Wrecsam, Rob a Ryan, rannu eu gwybodaeth a’u parch at ein diwylliant a’n hiaith yn fyd-eang. Hefyd yn ddiweddar cyhoeddodd Ryan Reynolds y bydd ‘Welsh Wednesday’ yn ymddangos ar ei sianel ffrydio, gyda sawl awr o raglenni Cymraeg yn cael eu dangos i gynulleidfaoedd y tu allan i Gymru. Bydd twf cynulleidfaoedd, ymwybyddiaeth a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn helpu i greu cyfleoedd ffafriol i lwyddo.
Fel cyflogwr byddwn yn annog holl staff ac aelodau etholedig CBSW i gyrraedd lefel 1 yn Gymraeg erbyn 2027, yn ogystal ag uwchsgilio’r rheiny yn ein gweithlu sydd â sgiliau iaith Gymraeg yn barod.
Rydym yn anelu at gael mwy o ddisgyblion yn rhan o’r Urdd a’i weithgareddau.
Rydym am hyrwyddo ymhellach y defnydd o Gymraeg anffurfiol megis drwy weithio gyda Ffocws Cymru a’r Saith Seren i hyrwyddo Cerddoriaeth Gymraeg – rydym hefyd yn anelu at wneud y defnydd o’r Gymraeg yn fwy gweladwy ar draws ein llwyfannau digidol.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Cefnogwr y Gymraeg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: Mae ein polisi iaith Gymraeg yn cwmpasu arfer gorau a syniadau creadigol i sicrhau bod y defnydd o’r Gymraeg yn Wrecsam nid yn unig yn cael ei gadw, ond yn ffynnu.