Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut fyddwn ni’n hyrwyddo’r Gymraeg yn Wrecsam…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Sut fyddwn ni’n hyrwyddo’r Gymraeg yn Wrecsam…
Y cyngorPobl a lle

Sut fyddwn ni’n hyrwyddo’r Gymraeg yn Wrecsam…

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 19, 2023 11:29 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Sut fyddwn ni’n hyrwyddo’r Gymraeg yn Wrecsam…
RHANNU

Er mwyn hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn y Fwrdeistref Sirol rydym wedi cynhyrchu strategaeth Iaith Gymraeg ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

Mae’r strategaeth yn cwmpasu blynyddoedd 2022 – 2027 ac mae’n seiliedig ar waith a’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu o strategaethau blaenorol, yn ogystal ag ymgorffori syniadau blaengar.

Sut fyddwn ni’n hyrwyddo’r Gymraeg yn Wrecsam…

EIN GWELEDIGAETH

Ein gweledigaeth yw darparu amgylchedd ffafriol yn Wrecsam sy’n hyrwyddo defnyddio mwy ar y Gymraeg, cynyddu dealltwriaeth o’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig ymysg preswylwyr di-Gymraeg, a rhoi cyfle i breswylwyr fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno.  O ganlyniad i’r cyfleoedd hyn, gobeithiwn weld cynnydd o 12.9% yn nifer y siaradwyr Cymraeg ledled y fwrdeistref sirol.

Mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod o fudd-ddeiliaid lleol i symud ymlaen â’i agenda iaith Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys bod yn aelod o Fforwm Iaith Fflint a Wrecsam a gweithio’n strategol gydag amrywiaeth o sefydliadau eraill a chyrff cyhoeddus megis Menter Iaith y Fflint a Wrecsam, Coleg Cambria, Urdd Gobaith Cymru ac Ymddiriedolaeth Bwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr i rannu enghreifftiau o arfer gorau, arbenigedd ac adnoddau.

Themâu strategol

Yn hytrach na nodau, mae’r strategaeth erbyn hyn yn amlinellu themâu clir ar gyfer cefnogi a chynyddu’r Gymraeg yn y Fwrdeistref Sirol. Y themâu hyn yw:

Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg

  • Cynllunio’r Gweithlu
  • Addysg a hyfforddiant 

Cynyddu defnydd o’r Gymraeg

  • Defnydd o’r Gymraeg mewn lleoliadau cymdeithasol
  • Cymraeg mewn busnes
  • Gwasanaethau Digidol
Sut fyddwn ni’n hyrwyddo’r Gymraeg yn Wrecsam…

Creu amodau ffafriol ar gyfer llwyddiant

  • Cyfranogiad y Cyhoedd
  • Hunaniaeth Wrecsam
  • Digwyddiadau Cymraeg / Dwyieithog

Mae ymwybyddiaeth o’n hiaith a’n diwylliant wedi codi’n sylweddol yn ddiweddar yn dilyn llwyddiannau tîm pêl-droed Cymru ac wrth i berchnogion clwb pêl-droed Wrecsam, Rob a Ryan, rannu eu gwybodaeth a’u parch at ein diwylliant a’n hiaith yn fyd-eang. Hefyd yn ddiweddar cyhoeddodd Ryan Reynolds y bydd ‘Welsh Wednesday’ yn ymddangos ar ei sianel ffrydio, gyda sawl awr o raglenni Cymraeg yn cael eu dangos i gynulleidfaoedd y tu allan i Gymru. Bydd twf cynulleidfaoedd, ymwybyddiaeth a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn helpu i greu cyfleoedd ffafriol i lwyddo.

Fel cyflogwr byddwn yn annog holl staff ac aelodau etholedig CBSW i gyrraedd lefel 1 yn Gymraeg erbyn 2027, yn ogystal ag uwchsgilio’r rheiny yn ein gweithlu sydd â sgiliau iaith Gymraeg yn barod.

Sut fyddwn ni’n hyrwyddo’r Gymraeg yn Wrecsam…

Rydym yn anelu at gael mwy o ddisgyblion yn rhan o’r Urdd a’i weithgareddau.

Rydym am hyrwyddo ymhellach y defnydd o Gymraeg anffurfiol megis drwy weithio gyda Ffocws Cymru a’r Saith Seren i hyrwyddo Cerddoriaeth Gymraeg – rydym hefyd yn anelu at wneud y defnydd o’r Gymraeg yn fwy gweladwy ar draws ein llwyfannau digidol.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Cefnogwr y Gymraeg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: Mae ein polisi iaith Gymraeg yn cwmpasu arfer gorau a syniadau creadigol i sicrhau bod y defnydd o’r Gymraeg yn Wrecsam nid yn unig yn cael ei gadw, ond yn ffynnu.

Sut fyddwn ni’n hyrwyddo’r Gymraeg yn Wrecsam…
TAGGED:wrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol Green Flag Newyddion Gwych wrth i naw ardal sicrhau Gwobr y Faner Werdd
Erthygl nesaf Chwilio am weithgareddau dros yr haf? Does dim rhaid i chi edrych ymhellach… Chwilio am weithgareddau dros yr haf? Does dim rhaid i chi edrych ymhellach…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English