Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newyddion Gwych wrth i naw ardal sicrhau Gwobr y Faner Werdd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Image from St David's Day Parade of group of children holding a Welsh flag
Wrecsam yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda rhaglen lawn yng nghanol y ddinas
Digwyddiadau Pobl a lle
EV charging
Gwefru rhatach ar gyfer cerbydau trydan i breswylwyr Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
Digwyddiadau Pobl a lle Yn cael sylw arbennig
Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!
Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!
Digwyddiadau
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Newyddion Gwych wrth i naw ardal sicrhau Gwobr y Faner Werdd
Y cyngorArall

Newyddion Gwych wrth i naw ardal sicrhau Gwobr y Faner Werdd

Diweddarwyd diwethaf: 2023/07/19 at 9:52 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Green Flag
RHANNU

Rydym yn falch o ddweud bod 9 ardal yn Wrecsam wedi cadw eu Statws Baner Werdd – nod rhyngwladol parc neu fan gwyrdd o safon.

Parc Acton, Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Y Parciau, Parc y Ponciau, Parc Gwledig Tŷ Mawr a Mynwent Wrecsam, ynghyd ag enillwyr gwobrau cymunedol sy’n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr yng Ngorsaf y Waun, Maes y Pant a Phlas Pentwyn sydd i gyd wedi ennill Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd.  

Bellach yn ei thrydedd ddegawd, mae Gwobr y Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sy’n cael eu rheoli’n dda mewn 20 o wledydd ledled y byd.

Mae baneri’n cael eu rhoi i ardaloedd sydd â chyfleusterau gwych i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel ac yn ymrwymo i ddarparu mannau gwyrdd o safon.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Unwaith eto mae’n bleser clywed y newyddion hyn a rhaid diolch i’r staff a’r gwirfoddolwyr sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ansawdd ein mannau gwyrdd yn parhau i fod o safon uchel.

“Mae ein parciau a’n mannau agored yn parhau i fod yn ardaloedd gwerthfawr o harddwch naturiol ac rydym wedi ymrwymo i’w diogelu a’u cynnal er mwyn sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr yn gallu eu defnyddio fel lleoedd i ymlacio a gwneud ymarfer corff.”

280 o barciau, y nifer uchaf erioed, yn cael gwobr y Faner Werdd

Mae 280 o barciau a mannau gwyrdd, y nifer uchaf erioed, ar draws y wlad wedi derbyn anrhydedd Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd – o barciau gwledig a gerddi ffurfiol i randiroedd, coetiroedd a mynwentydd.

Yng Nghymru, mae’r cynllun gwobrau yn cael ei gynnal gan Cadwch Gymru’n Daclus.

Meddai Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd ar gyfer elusen Cadwch Gymru’n Daclus: “Ni fu mynediad am ddim i fannau gwyrdd diogel o ansawdd uchel erioed mor bwysig. Mae ein safleoedd o’r safon uchaf yn chwarae rhan hanfodol yn lles meddyliol a chorfforol pobl, gan ddarparu hafan i gymunedau ddod at ei gilydd, ymlacio a mwynhau byd natur.

“Mae’r newyddion bod 280 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru wedi ennill Gwobrau’r Faner Werdd yn dyst i waith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr. Rydym yn falch iawn o allu dathlu eu llwyddiant ar lwyfan y byd.”

Mae rhestr lawn o enillwyr o wobr i’w gweld ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Rhybuddio rhieni am negeseuon testun twyllodrus dros yr haf

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Green Flag
Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Acton Park Gorsedd Stones Dewch i fwynhau’r gwyllt a chefn gwlad yn ystod Wythnos Natur Cymru yn Wrecsam
Erthygl nesaf Sut fyddwn ni’n hyrwyddo’r Gymraeg yn Wrecsam… Sut fyddwn ni’n hyrwyddo’r Gymraeg yn Wrecsam…

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Image from St David's Day Parade of group of children holding a Welsh flag
Wrecsam yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda rhaglen lawn yng nghanol y ddinas
Digwyddiadau Pobl a lle Chwefror 10, 2026
EV charging
Gwefru rhatach ar gyfer cerbydau trydan i breswylwyr Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Chwefror 6, 2026
WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
Digwyddiadau Pobl a lle Yn cael sylw arbennig Chwefror 5, 2026
Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!
Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!
Digwyddiadau Chwefror 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam
ArallFideoPobl a lle

Dadorchuddio llythrennau eiconig WRECSAM yn Sgwâr y Frenhines

Chwefror 3, 2026
Women's Health Event 2026
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad Iechyd Menywod 2026

Chwefror 3, 2026
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lleY cyngor

Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol

Ionawr 29, 2026
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English