Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut i ailgylchu’n llwyddiannus dros y Nadolig eleni
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Sut i ailgylchu’n llwyddiannus dros y Nadolig eleni
Pobl a lleY cyngor

Sut i ailgylchu’n llwyddiannus dros y Nadolig eleni

Diweddarwyd diwethaf: 2018/11/30 at 1:52 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Christmas Recycling Presents Gifts
RHANNU

Mae hi bron yn Nadolig… 😉

Cynnwys
Beth na ellir ei ailgylchu?Beth ydw i’n gallu eu hailgylchu ar ymyl y palmant?Cofiwch am y bwyd!Ac os na ellir ei ailgylchu ar ymyl y palmant…Negeseuon atgoffa biniau

Mae archfarchnadoedd wedi gosod eu heiliau Nadolig, ac maent yn llawn dop â phapurau lapio, addurniadau a chardiau Nadolig amrywiol.

Mae’n bosibl eich bod chi eisoes wedi dechrau stocio ar y pethau hyn…

Ond tra rydych chi wrthi, mae’n werth ystyried beth sy’n gallu cael ei ailgylchu.

Yn Wrecsam, rydym ni’n wych am ailgylchu – ac mae’n bwysig ein bod ni’n cadw’r momentwm dros y Nadolig… yn enwedig wrth ystyried faint o ddeunydd y byddwn yn ymdrin â hwy.

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Mae pobl Wrecsam yn parhau i wneud gwaith ffantastig gyda’u hailgylchu. Mae cyfnod y Nadolig yn golygu y bydd gan bobl fwy o bethau i’w hailgylchu na’r arfer, felly mae’n bwysig diolch i bobl am eu hymdrechion a’u hatgoffa o’r cyfraniad ardderchog ganddynt.”

Ffaith: Pe baem yn defnyddio’r holl becynnau cardiau yr ydym yn eu defnyddio yng Nghymru dros gyfnod y Nadolig, byddem yn gallu creu traffordd allan o gardbord o Gymru i’r Lapdir!

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.

Dyma ychydig o wybodaeth i’ch helpu chi ailgylchu’n llwyddiannus dros y Nadolig eleni.

Beth na ellir ei ailgylchu?

Ni ellir ailgylchu papur lapio ffoil. Efallai eu bod nhw’n edrych yn ddel, ond os ydych chi eisiau ailgylchu’n llwyddiannus, mae’n well peidio â’u defnyddio.

Ni ellir ailgylchu tagiau gyda gliter arnynt…

Hefyd, ni ellir ailgylchu bos a rhubanau addurniadol. Efallai y byddai’n syniad eu cadw nhw tan y flwyddyn nesaf?

Awgrym: Ceisiwch dynnu tapiau a styffylau oddi ar focsys cardbord cyn eu hailgylchu nhw.

Beth ydw i’n gallu eu hailgylchu ar ymyl y palmant?

Gellir ailgylchu tuniau fferins ynghyd â chaniau a phlastigau yn eich blwch olwynion/blychau ailgylchu.

Gellir hefyd ailgylchu papur lapio (nid ffoil), amlenni a chardiau Nadolig ynghyd â’ch papurau eraill yn y ffordd arferol. Gellir ailgylchu bagiau anrhegion cerdyn a phapur yn fan hyn hefyd – ond cofiwch dynnu unrhyw handlenni na ellir eu hailgylchu.

Gellir ailgylchu cesys ffoil eich mins-peis gyda’ch caniau a’ch poteli plastig. Ond gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw fwyd dros ben arnynt.

Ffaith: A oeddech chi’n gwybod, os yw eich blychau ailgylchu yn llawn, gallwch adael unrhyw beth sydd angen ei ailgylchu mewn bagiau neges neu focsys sbâr i gael eu casglu. Ond gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwahanu deunydd gwahanol, fel yr ydych yn ei wneud fel arfer, ac yn eu gosod nhw yn eich blychau ailgylchu arferol ar ymyl y palmant.

Cofiwch am y bwyd!

Mae’r Nadolig hefyd yn golygu y bydd gennych lawer o esgyrn twrci a bwyd dros ben y gallwch eu hailgylchu yn eich cadi bwyd.

I atgoffa’ch hunan o ba fwyd y gellir eu hailgylchu, edrychwch ar ein blog o’r mis diwethaf.

Rydym ni bellach yn dosbarthu bagiau cadi newydd am ddim, felly, os nad ydych chi’n gwneud yn barod, mae’n amser gwych i ddechrau meddwl am ailgylchu bwyd.

A chofiwch – os ydych chi’n dechrau rhedeg allan o fagiau cadi, clymwch un gwag i handlen eich cadi ar eich diwrnod casgliadau ac mi wnawn ni adael rholyn newydd i chi…

Neu fel arall, gallwch eu casglu o’n canolfannau ailgylchu… siaradwch ag un o’r gweithwyr a gofynnwch am rolyn newydd.

Ac os na ellir ei ailgylchu ar ymyl y palmant…

Gallwch fynd â nifer o eitemau eraill i un o’n canolfannau ailgylchu i gael eu hailgylchu neu eu hailddefnyddio.

Gellir ailgylchu hen addurniadau Nadolig yn siop ailddefnyddio Hosbis Tŷ’r Eos yng nghanolfan ailgylchu domestig Lôn y Bryn…

Hefyd, cadwch olwg am yr ardaloedd dynodedig yng nghanolfannau ailgylchu domestig Plas Madoc a Brymbo, lle y gallwch adael eitemau ar gyfer y siop ailddefnyddio.

Hefyd, gallwch fynd â choed Nadolig go iawn i gael eu hailgylchu yn ein canolfannau ailgylchu, os nad ydynt yn ffitio yn eich bin gwyrdd.

Os hoffech, gallwch ddod â phapur lapio dros ben i’n canolfannau ailgylchu hefyd. Ond gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwahanu papur lapio ffoil a rhai papur cyn cyrraedd y ganolfan.

Negeseuon atgoffa biniau

Cofiwch, gallwch hyd yn oed danysgrifio i dderbyn negeseuon atgoffa o ddyddiau casgliadau biniau, sy’n anfon e-bost atoch ddiwrnod cyn y casgliadau bob wythnos.
Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i drigolion dros y Nadolig pan mae dyddiadau casgliadau yn gallu newid!

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Penwythnos Prysur ar y Gweill i Wrecsam! Penwythnos Prysur ar y Gweill i Wrecsam!
Erthygl nesaf Am y record - roedd hwn yn ddiwrnod gwych! Am y record – roedd hwn yn ddiwrnod gwych!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 8, 2025
Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Lucy Cowley
DigwyddiadauPobl a lle

Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni

Awst 6, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English