Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Eich canllaw ailgylchu syml – beth sy’n mynd i ble?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Eich canllaw ailgylchu syml – beth sy’n mynd i ble?
Pobl a lleY cyngor

Eich canllaw ailgylchu syml – beth sy’n mynd i ble?

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 4, 2018 4:20 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Cardboard Egg Box Recycling
RHANNU

Mae ailgylchu eich gwastraff domestig yn llawer symlach nag ydych chi’n ei feddwl…

Cynnwys
  • Y Bocs Olwynion
  • Y Bocs Uchaf
  • Y Bocs Canol
  • Y bocs gwaelod
  • Bin Gardd Gwyrdd
  • Cadi ymyl palmant llwyd

Yn hytrach na gwasgu popeth i’r bin du domestig tan ei fod o’n gorlwytho, mae ailgylchu’n gywir yn caniatáu i chi gael mwy o le ac yn rhoi sawl budd i’r amgylchedd.

“Iawn, ond beth sy’n mynd i ble?”

A, y cwestiwn y mae pawb yn ei ofni, “ble ddylwn i roi hyn, llall ac arall?” Ond nid oes angen ei ofni.. dyma ganllaw syml iawn ar sut i ailgylchu eich gwastraff domestig.

GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!

Y Bocs Olwynion

Dyna ni, yr un â thair haen iddo. Dyma restr sydyn o beth y dylid eu rhoi ym mhob bocs:

(Os nad oes gennych focs olwynion eto, ymwelwch â’n gwefan i gael canllaw ar sut y gallwch ailgylchu’r eitemau hyn yn eich bocsys/bagiau.)

Y Bocs Uchaf

• Pecynnau cardbord
• Cardbord rhychiog
• Post sothach
• Papur Newydd
• Cylchgronau
• Llyfrau Melyn
• Catalogau
• Papur wedi’i rwygo
• Amlenni
• Tiwbiau papur toiled
• Bocsys wyau cardbord
• Bocsys mawr (rhaid rhwygo’r rhain a’u gosod yn y bocs)

Y Bocs Canol

• Poteli plastig
• Potiau plastig
• Hambyrddau plastig
• Tybiau plastig
• Caniau
• Tuniau
• Aerosolau
• Ffoil glân

Y bocs gwaelod

• Poteli gwydr
• Jariau gwydr

Ni ddylid rhoi gwydrau sydd wedi torri, cartonau bwyd a diod, clytiau budr, haenen lynu (cling ffilm) neu bacedi creision yn unrhyw un o’r bocsys.

Bin Gardd Gwyrdd

Gellir defnyddio hwn i ailgylchu’r canlynol:

• Toriadau gwair
• Toriadau perthi a llwyni
• Blodau marw
• Chwyn

Ni ddylid rhoi pridd, coed, brigau, clymog Japan, tail anifeiliaid nag unrhyw fath o gardbord yn y rhain.

Cadi ymyl palmant llwyd

Gellir rhoi’r canlynol mewn bagiau compost ac yna dylid eu rhoi yn y cadi:

• Ffrwythau a llysiau – amrwd ac wedi’u coginio
• Cig a physgod – amrwd ac wedi’u coginio
• Esgyrn a Chregyn Wyau
• Reis, pasta, grawnfwydydd a nwdls
• Bara, cacennau, crwst a bisgedi
• Bagiau te a choffi mâl
• Caws, wyau ac iogwrt
• Ffa, cnau, corbys a hadau
• Bwyd sydd heb ei fwyta o’ch plât

Ni ddylid rhoi bagiau cario na phecynnau bwyd yn y rhain.

Gallwch ailgylchu llawer mwy o eitemau yn unrhyw un o’r canolfannau ailgylchu domestig sydd gennym yn Wrecsam.

Gobeithio bod gennych well dealltwriaeth bellach o sut i ailgylchu yn gywir. Mae o wir yn haws nag ydych chi’n ei feddwl.

Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/gwiriwch-a-golchwch-a-gofalwch-am-y-gweddillion-2-gyngor-ailgylchu-syml-ar-gyfer-gwell-wrecsam/”]DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Arweinwyr y Cyngor yn paratoi am setliad cyllideb anodd Arweinwyr y Cyngor yn paratoi am setliad cyllideb anodd
Erthygl nesaf kitchen food safety Ydych chi’n gweithio yn y diwydiant bwyd? Dyma’ch cyfle i ennill gwobr diogelwch bwyd…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English