Erthygl Gwadd – Eisteddfod
Bydd nifer o bobl yn ymweld â Wrecsam wythnos y Steddfod, gan gynnwys rhai sy’n ymweld am y tro cyntaf. Mae ein prosiect Harddu poblogaidd yn gyfle i chi roi croeso mawr i ymwelwyr yr Eisteddfod trwy addurno’ch ardal.
Rydyn ni wedi paratoi ‘Pecyn Harddu‘ llawn syniadau o sut i fynd ati i ddechrau ar y gwaith.
Unwaith y bydd eich prosiect yn barod i’w osod, rydyn ni’n gofyn y garedig i chi weithio gyda’ch gilydd i osod y gwaith yn ddiogel, gan sicrhau eich bod yn cael caniatâd y cyngor neu’r tirfeddiannwr i osod y gwaith.
Dyddiadau pwysig:
- 13 Mehefin – 50 diwrnod i fynd – Harddu’n dechrau!
- 5 Gorffennaf – Diwrnod tacluso – Diwrnod i baratoi a chael eich ardal yn lan a thaclus cyn dechrau ar y gwaith harddu
- 5-6 Gorffennaf – Penwythnos Harddu – Cyfle gwych i ddod a’r gymuned at ei gilydd i addurno eich ardal
Ymunwch â’n Pwyllgor Harddu
Rydyn ni’n chwilio am griw gweithgar i ymuno â’n Grŵp Harddu i helpu sicrhau bod pob ardal wedi ei addurno i groesawu’r ŵyl.
Cofrestrwch eich diddordeb ar wefan yr Eisteddfod