Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n gwybod beth yw’r gwahaniaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Llangollen?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ydych chi’n gwybod beth yw’r gwahaniaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Llangollen?
Pobl a lleBusnes ac addysgDigwyddiadauY cyngor

Ydych chi’n gwybod beth yw’r gwahaniaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Llangollen?

Diweddarwyd diwethaf: Mai 8, 2025 4:19 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Ydych chi'n gwybod beth yw’r gwahaniaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Llangollen?
Sadwrn Ebrill 27 2024 Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025
RHANNU

Os nad ydych chi’n gyfarwydd ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen na’r Eisteddfod Genedlaethol, yna darllenwch ymlaen!

Cynnwys
  • Beth yw’r Eisteddfod Genedlaethol?
  • Ydy’r Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig?
  • Beth yw Eisteddfod Llangollen?

Ar ôl darllen ein canllaw defnyddiol dylech chi allu gwybod y gwahaniaeth – yn ogystal ag edrych ymlaen at pryd y byddan nhw’n cael eu cynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn!

Y peth cyntaf i’w wybod yw bod y ddwy Eisteddfod yn tywys pobl trwy ddathliadau lliwgar a cherddorol o ddiwylliannau

Beth yw’r Eisteddfod Genedlaethol?

Yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop ac mae’n cael ei chynnal yn flynyddol ym mis Awst.

Mae gwreiddiau’r Eisteddfod Genedlaethol yn dyddio’n ôl i tua 1176 pan gynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi; fodd bynnag, sefydlwyd yr Eisteddfod ‘fodern’ gyntaf ym 1861, ac fe’i cynhaliwyd yn Aberdâr.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn digwydd mewn gwahanol leoliadau ledled y wlad bob blwyddyn, gan gylchdroi rhwng Gogledd a De Cymru. Eleni, mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i Wrecsam rhwng 2 Awst a 9 Awst ac roedd yn Wrecsam ddiwethaf yn ôl yn 2011.

Mae’r Eisteddfod yn cael ei hariannu gan wahanol ffynonellau, ond un o’r ffrydiau refeniw pwysicaf yw trwy grwpiau codi arian lleol yn yr ardal sy’n ei chynnal! Mae’n ffordd wych o ymgysylltu, neu ail-ymgysylltu â’ch cymuned leol.

Gallwch chi gael gwybod mwy am grwpiau cymunedol a chymryd rhan yma.

Mae’n ŵyl lle gall pobl gystadlu mewn amrywiaeth eang o wahanol gystadlaethau, ymweld â’r gwahanol stondinau sydd ar y maes ac ymweld â ‘Maes B’, gŵyl o fewn gŵyl lle gallwch chi wylio llawer o fandiau ac artistiaid unigol byw. Y prif berfformwyr ym Maes B eleni yw Bwncath, Gwilym, Fleur De Lys ac Adwaith.

Ydy’r Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig?

Mae rhai bobl yn credu bod yr Eisteddfod ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig; fodd bynnag, nid yw hyn yn wir. Mae’n ŵyl genedlaethol lle gall pobl ddysgu Cymraeg a dathlu ein hiaith a’n diwylliant.

Mae yna ddigon o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar y maes, boed hynny’n dipyn bach neu’n llawer!

Mae hyd yn oed ardal benodol i ddysgwyr Cymraeg, sef ‘Maes D‘

Beth yw Eisteddfod Llangollen?

Sefydlwyd yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol ym 1947 ac mae’n cael ei chynnal bob blwyddyn ym mis Gorffennaf yn Llangollen.

Dechreuodd gyda gweledigaeth y gallai hen draddodiad Cymreig yr eisteddfod gynnig modd o wella clwyfau’r Ail Ryfel Byd, a helpu i hyrwyddo heddwch parhaol.

Mae’n ŵyl i ddathlu a phrofi dawns, cerddoriaeth a diwylliant rhyngwladol o bob cwr o’r byd.

Ariennir Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen drwy gyfuniad o roddion, nawdd a buddsoddiadau; fodd bynnag, yn union fel yr Eisteddfod Genedlaethol, un o’r ffrydiau refeniw pwysicaf yw trwy grwpiau codi arian lleol yn y gymuned! Mae Eisteddfod Llangollen yn ceisio denu noddwyr unigol a chorfforaethol. 

Mae’r sefydliad yn gwahodd cerddorion adnabyddus i berfformio ym mis Mehefin cyn i’r Eisteddfod ddechrau. Eleni, bydd James, Texas, Rag’n’Bone Man, UB40, The Script, Olly Murs a The Human League yno. Maen nhw hefyd yn cynnal gorymdaith liwgar o genhedloedd trwy’r dref y gall pawb sy’n cystadlu o bob cwr o’r byd gymryd rhan ynddi. Mae hon yn cael ei chynnal ar 3 Gorffennaf 2025.

Mae rhagor o fanylion am yr Eisteddfod Ryngwladol ar gael ar eu gwefan

Rhannu
Erthygl flaenorol Oeddech chi'n gwybod am rôl bwysig y rhanbarth fel ardal denu yn ystod yr Ail Ryfel Byd? Oeddech chi’n gwybod am rôl bwysig y rhanbarth fel ardal denu yn ystod yr Ail Ryfel Byd?
Erthygl nesaf Sut i ddod yn rhan o dîm harddu Eisteddfod Wrecsam 2025 Sut i ddod yn rhan o dîm harddu Eisteddfod Wrecsam 2025

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English