“Os ydi’r pris yn swnio’n rhy dda i fod yn wir – mae’n debyg ei fod o!”
Bydd llawer o bobl yn chwilio am fargeinion Dydd Gwener Du a Dydd Llun Seiber, ond mae’r Grŵp Gwrth-nwyddau Ffug (ACG) yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus wrth siopa gan y bydd gangiau rhyngwladol o gynhyrchwyr nwyddau ffug yn barod i gymryd mantais ohonyn nhw.
Gyda’r disgwyliad y bydd tua £8 biliwn wedi’i wario erbyn diwedd Dydd Llun Seiber bydd y ‘ffugwyr’ fel y’u gelwir yn aml, yn defnyddio amrywiaeth o sianelau i geisio cael arian gennym ni.
Mae ffugwyr yn defnyddio anhysbysrwydd y rhyngrwyd i’w mantais eu hunain ac yn gweithredu o wefannau soffistigedig sy’n gwneud i bobl gredu eu bod nhw’n prynu nwyddau dilys, ond mewn gwirionedd byddant yn derbyn cynnyrch rhad, wedi’i wneud yn sâl ac sydd hyd yn oed yn beryglus.
Ffaith: Yn ôl awdurdodau tollau ledled Ewrop mae dros 37% o’r nwyddau ffug sy’n cael eu canfod ar ein ffiniau’n beryglus i ddefnyddwyr.
Mae Which? wedi rhoi arweiniad defnyddiol at ei gilydd ar gyfer siopwyr ac mae gan ACG hefyd gyngor da ar sut i osgoi cael eich dal allan dros y cyfnod gwerthu nwyddau rhatach.
Beth mae’r ACG yn ei ddweud?
Mae’r ACG yn deall bod 30% o holl ddefnyddwyr y DU yn prynu nwyddau dros gyfnod Dydd Gwener Du a Dydd Llun Seiber ac mae’n hollbwysig bod yn wyliadwrus dros ben o unrhyw gynigion amheus.
Yn gyntaf, gwiriwch gan bwy yr ydych yn prynu. Os ydych ar y stryd fawr, ewch i siop ag enw da. Os ydych ar-lein cofiwch bod dros 83% o’r holl nwyddau ffug yn dod o China. Felly os ydi cyfeiriad y wefan neu’r cyfeiriad lle bydd y nwyddau’n cael eu hanfon yn edrych fel pe bai yn China neu Hong Kong, byddwch yn ofalus iawn.
Peidiwch â bod yn rhy barod i roi eich arian. Gwiriwch bris y nwyddau yn erbyn prisiau gwefannau eraill. Mae’n bosibl y cewch chi’r un pris gan y gwneuthurwyr gwreiddiol.
Unwaith eto, os ydi’r pris yn swnio’n rhy dda i fod yn wir – mae’n debyg ei fod o!
Os ‘da chi’n siopa, gobeithio y cewch chi fargeinion go iawn, ond peidiwch â gadael i’r troseddwyr ddod yn agos atoch. Byddwch yn arbennig o ofalus!
Os ydych chi eisiau gwneud cwyn neu gael cyngor am nwyddau neu wasanaethau yr ydych wedi’u prynu, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040506
Neu, os oes arnoch chi eisiau rhoi gwybod am rywbeth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101
Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!
Cofrestrwch i gael rhybuddion am sgamiau yma!